Mae'r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers lansio Porth Atal Trais Cymru!
I nodi blwyddyn ers lansio'r Porth, rydym yn cynnal dwy sesiwn hyfforddiant ym mis Ebrill. Bydd y sesiynau hyn yn addas i'r rhai sy'n newydd i ddefnyddio'r Porth neu'r rhai sydd angen cael eu hatgoffa:
- Dydd Mawrth 16 Ebrill (2.30pm-4.00pm) - cofrestrwch yma
- Dydd Mawrth 23 Ebrill (10.00am-11.30am) - cofrestrwch yma
Ers ei lansio ym mis Mawrth 2023, mae 221 o ddefnyddwyr wedi cofrestru â'r Porth. Lansiwyd y Porth â data derbyniadau ysbyty a galwadau ambiwlans yng Nghymru, niferoedd ymosodiad yr adran frys yn Ne Cymru a data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn Ne Cymru. Ers mis Ebrill 2023, mae ffynonellau data ychwanegol wedi cael eu hychwanegu, gan gynnwys niferoedd ymosodiad yr adran frys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Ngogledd Cymru a data Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer trais. Bydd niferoedd ymosodiad yr adran frys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hefyd ar gael ar y Porth ddiwedd y mis hwn.
Mae'r Porth hefyd yn cynnwys Casgliad Adroddiadau, sy'n cynnwys deunyddiau briffio Swyddogol ac adroddiadau a ddatblygwyd gan Uned Atal Trais Cymru ar faterion trais penodol. Eleni, mae'r Uned Atal Trais wedi datblygu adroddiad cryno ar ddata Gwasanaeth Ymosodiadau Rhywiol Cymru, ac adroddiad blynyddol ar Brofiadau o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod sy'n Byw yng Nghymru, gan ddefnyddio data a gesglir drwy lwybr clinigol Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod Cymru Gyfan.
Mae Porth Atal Trais Cymru ar gael i bob person proffesiynol sydd angen deall tueddiadau trais yng Nghymru, yn enwedig dadansoddwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus. Mae'r data sydd ar gael ar y Porth yn hanfodol ar gyfer sefydliadau sy'n ymwneud â Dyletswydd Trais Difrifol yn ogystal â'r rhai sy'n dymuno i ddeall achosion o drais yn eu cymunedau yn well ar gyfer arferion gweithredol a strategol.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer cyfrif Porth (dim ond ar gyfer cyfeiriadau e-bost sefydliadol yn unig y caniateir mynediad).