Mae ymgyrch #DdimYrUn yn defnyddio dull ymyrryd yn gynnar o atal troseddau cyllyll, gan gefnogi oedolion y gellir ymddiried ynddynt, yn cynnwys rhieni, athrawon, swyddogion yr heddlu a gweithwyr ieuenctid, i addysgu plant a phobl ifanc 11-16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell.
Ers 2022, mae'r ymgyrch wedi ymgysylltu â 100,000 o bobl dros Facebook, Instagram a TikTok ac mae 1,000 o becynnau addysg wedi'u lawrlwytho ledled De Cymru.
Mae'r adnoddau newydd ar gyfer 2024 yn cynnwys:
- Fideo'r ymgyrch, y gellir ei lawrlwytho uchod, sydd wedi'i sgriptio gan ysgrifenwyr ifanc o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
- Cyfweliad ychwanegol â gweithiwr ieuenctid fel rhan o gyfres ‘In Coversation’ i roi cyngor ymarferol i rieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc sy'n poeni am droseddau cyllyll neu sy'n ystyried cario cyllell.
- Adrannau newydd o'r wefan, yn cynnwys adran 'ysbrydoli' er mwyn i weithwyr proffesiynol allu gweld enghreifftiau o'r ffyrdd y mae eraill wedi defnyddio'r ymgyrch.
- Adnoddau addysgol diwygiedig sy'n adlewyrchu'r Cwricwlwm newydd i Gymru er mwyn helpu staff addysgol i gynnal sgyrsiau â phobl ifanc am droseddau cyllyll, yn ogystal ag adnoddau i rieni a gweithwyr ieuenctid.
“Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym mai'r prif reswm pam mae rhywun yn cario cyllell yw am ei fod yn meddwl y bydd yn ei gadw'n ddiogel. Mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir. Rydych yn llawer mwy tebygol o gael niwed gan gyllell – naill ai eich un chi neu un rhywun arall – os byddwch yn cario cyllell eich hun.
“Fel rhan o'r ymgyrch hon, rydym wedi gwrando ar blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, ac wedi datblygu adnoddau sy'n canolbwyntio ar yr atebion i droseddau cyllyll a awgrymwyd gan blant a phobl ifanc. Diolch i'r drefn, mae troseddau cyllyll yn brin yn ne Cymru, ond mae un achos yn un yn ormod, a thrwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol, plant a phobl ifanc, rwy'n ffyddiog y gallwn leihau nifer y troseddau cyllyll ymhellach.”
Dan Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru
“Mae'r adnoddau hyn wedi'u datblygu yn dilyn gweithdai ac arolygon gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sydd wedi defnyddio'r ymgyrch.
“Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn ymgysylltu â ni ers 2022, a gwyddom, fod addysg ac ymyrryd yn gynnar yn allweddol i atal troseddau cyllyll yn ne Cymru.
“Dylai pobl ifanc allu teimlo'n ddiogel yn ein cymunedau, a mwynhau plentyndod heb ofn cyllyll. Mae ein cymunedau wedi chwarae rhan hanfodol i'n helpu i gyflwyno’r ymgyrch hon. Po fwyaf o bobl ifanc y gallwn eu haddysgu am beryglon troseddau cyllyll, y mwyaf y gallwn weithio tuag at ddyfodol heb gyllyll.”
Uwch-arolygydd Esyr Jones, Heddlu De Cymru
"Mae Sefydliad Cymunedol CPD Dinas Caerdydd yn falch o gydweithio â Heddlu De Cymru ac Atal Trais Cymru i ddadorchuddio adnoddau diweddaraf NotTheOne a chychwyn ail gam eu hymgyrch. Mae'n fraint i ni arddangos safbwyntiau pobl ifanc o'n rhaglen Addysg Bellach , gan ddangos sut y gallwn fynd i’r afael â thrafodaethau ynghylch troseddau cyllyll gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau mwy diogel trwy rym chwaraeon a newid bywydau.”
Zac Lyndon-Jones, Pennaeth Datblygu Cymunedol, Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd