Jump to content

#DdimYrUn yn ennill y wobr Efydd yn y Gwobrau Anthem Rhyngwladol!

Cipiodd ymgyrch #DdimYrUn, ymgyrch sy'n mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll, y wobr Efydd yng nghategori Addysg, Celf a Diwylliant – categori Gwasanaeth Cyhoeddus ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Ngwobrau Anthem 2024.

Mae'r ymgyrch, sy'n cael ei chyflawni mewn partneriaeth rhwng Uned Atal Trais Cymru, Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, yn defnyddio dull gweithredu a arweinir gan ymchwil er mwyn lleihau ac atal troseddau sy'n ymwneud â chyllyll. Wrth ddatblygu'r ymgyrch, roedd y tîm yn cynnwys gweithwyr cymunedol, gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd ac addysg, teuluoedd y mae troseddau cyllyll wedi effeithio arnynt ynghyd â goroeswyr troseddau cyllyll yn Ne Cymru. Lluniodd y tîm bartneriaeth ag asiantaeth greadigol Blue Stag er mwyn creu adnoddau rhyngweithiol a all gael eu defnyddio gan oedolion i addysgu pobl ifanc am droseddau cyllyll, gan ddefnyddio profiadau o fywydau go iawn i dynnu sylw at beryglon a chanlyniadau cario cyllell.

#NotTheOne

Eglurodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones, arweinydd Heddlu De Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Thrais Difrifol, er mai lleiafrif o'r boblogaeth yn unig y mae troseddau cyllyll yn effeithio arnynt, bydd unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys troseddau cyllyll bob amser yn arwain at ganlyniadau dinistriol i'r rheini a oedd yn rhan ohono, a nod #DdimYrUn yw addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell gan roi'r dulliau i rieni, athrawon, a grwpiau cymunedol wneud hynny.

"Pan fyddwch yn mynd i'r afael â phroblem mor ddifrifol â throseddau cyllyll, mae cyfrifoldeb enfawr arnoch i wneud pethau'n iawn. Gwrandawodd Uned Atal Trais Cymru a Heddlu De Cymru ar bobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, athrawon a swyddogion yr heddlu er mwyn deall beth sydd wir yn achosi i berson ifanc deimlo y dylai gario cyllell. Roedd yn wych cael gweithio gyda Blue Stag, a oedd yn gallu defnyddio'u creadigrwydd, eu sgiliau, a'u sensitifrwydd i lunio ymgyrch sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r achosion hyn mewn ffordd hwyliog a phwerus."

Bryony Parry- Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Uned Atal Trais Cymru

"Rydym yn falch iawn o weld fod prosiect #DdimYrUn wedi cael ei gydnabod â Gwobr Anthem gan yr Academi Celfyddydau a Gwyddorau Digidol Ryngwladol. Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at bŵer partneriaethau creadigol ynghyd â'r effaith gadarnhaol y gall mentrau o'r math eu cael ar ein cymunedau."

Dan Sargent- Blue Stag

Bydd Cyfnod 2 #DdimYrUn wedi'i ryddhau erbyn gwanwyn 2024.

Hafan- #NotTheOne | #DdimYrUn