Cynhaliodd Uned Atal Trais Cymru ei weithdy cyntaf ar y Fframwaith ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobol Ifanc ar gyfer partneriaid yn Wrecsam ddydd Iau, 6 Hydref.
Mae'r gweithdai, sy'n cael eu cynnal ledled Cymru drwy gydol mis Hydref, yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol drafod cysyniadau allweddol o fewn y Fframwaith, er mwyn i'r adborth gael ei gasglu i lywio'r broses o'i ddatblygu.
“Roedd yn wych gallu croesawu pobl o broffesiynau, o gefndiroedd, ac arbenigedd amrywiol i'n gweithdy yn Wrecsam. Caiff y mewnwelediad a roddwyd gan fynychwyr drwy drafodaethau ac adborth eu defnyddio i lywio datblygiad y Fframwaith yn dilyn yr ymgynghoriad.”
“Roedd yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu â phartneriaid yng Ngogledd Cymru ar bwnc mor bwysig, gan roi cyfle iddynt sgwrsio a rhannu syniadau a gaiff eu hadlewyrchu yn y Fframwaith Strategol.”
Dywedodd Dan Jones, Cyfarwyddwr Interim, Uned Atal Trais Cymru
Roedd y trafodaethau yn seiliedig ar gwestiynau a gafodd eu holi gan siaradwyr yn ystod y digwyddiad, gan ddechrau gyda Dan Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru, cyn symud ymlaen at y Naw Strategaeth i Atal Trais ymhlith Pobl Ifanc o dan arweiniad Lara Snowdon, Arweinydd yr Uned Atal Trais, cyn dod a'r trafodaethau i ben gyda chyd-destun y Fframwaith a gafodd ei lywio gan Jo Hopkins, Cyfarwyddwr Rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Cyfiawnder Troseddol, ac Atal Trais.
Gallwch gwblhau'r ymgynghoriad ar-lein, a fydd yn fyw hyd at 18 Tachwedd, yma, sy'n gyfle i gasglu eich adborth a'ch syniadau ar gyfer rhoi diwedd ar drais ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
Anelir yr ymgynghoriad at ddau grŵp – pobl ifanc yng Nghymru a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw. Anelir ein cwestiynau i bobl ifanc at y rheini rhwng 15 a 25 oed, ond mae croeso i bobl dros 25 oed rannu eu barn hefyd.