Arddangosodd Peer Action Collective Cymru ei waith yn y Senedd heddiw, 28 Medi, mewn digwyddiad wedi'i noddi gan Mark Drakeford, AS Gorllewin Caerdydd.
Yn y digwyddiad, lle roedd dros 100 o bobl yn bresennol, rhannodd Peer Action Collective Cymru uchafbwyntiau ei waith gan gynnwys Fframwaith Cymru Heb Drais, a luniwyd ar y cyd ag Uned Atal Trais Cymru, a'r Siarter Ieuenctid, a luniwyd ar y cyd â CASCADE, Prifysgol Caerdydd.
Rhwydwaith arloesol o Ymchwilwyr Cymheiriaid, Arweinwyr Gweithredu Cymdeithasol ac Ysgogwyr Newid yw Peer Action Collective, a ariennir gan Gronfa Gwaddol Ieuenctid, Cronfa #iwill a grŵp Co-op. Yng Nghymru, mae Peer Action Collective Cymru wedi ymrwymo ei amser i weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddeall yr hyn sy'n achosi trais, a'r hyn a allai roi diwedd arno.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i Peer Action Collective Cymru rannu'r dysgu hwn â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, cefnogi sgyrsiau ar gydgynhyrchu a dangos pwysigrwydd cefnogi pobl ifanc i gyfrannu at benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Dangosodd adroddiad diweddar gan Uned Atal Trais Cymru nad yw nifer o blant a phobl ifanc yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol yn gwrando arnynt. Mewn arolwg o fwy na 450 o blant a phobl ifanc ledled Cymru, roedd 74% yn cytuno bod ganddynt y pŵer i wneud newid, ond dim ond 23% a ddywedodd eu bod "bob amser" yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol yn gwrando arnynt, gyda'r mwyafrif (53%) yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn gwrando arnynt "weithiau" yn unig.
“Drwy lawer o sgyrsiau â phlant a phobl ifanc, rydym wedi clywed gobaith cyffredinol am Gymru lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei gynnwys a'i drin yn deg.
Rydym hefyd wedi clywed bod plant a phobl ifanc am gael eu cynnwys wrth ddatblygu atebion i drais, a materion eraill sy'n effeithio arnynt. Mae plant a phobl ifanc am gael cyfle i leisio eu barn pan fydd y mathau hyn o bethau yn cael eu trafod, ac maent yn haeddu cael y cyfle hwnnw.
Drwy Peer Action Collective Cymru, rydym wedi bod yn ffodus i feithrin partneriaethau â gweithwyr proffesiynol sy'n galluogi pobl ifanc i gael y cyfleoedd hyn, a gwyddom fod mwy o waith i'w wneud. Fy ngobaith, ar sail y trafodaethau heddiw, yw y bydd mwy o sefydliadau yn ystyried sut y gallant ymgorffori arferion cydgynhyrchu a chydweithio ystyrlon yn eu gwaith."
Steph McArdle-Arweinydd Peer Action Collective, Media Academy Cymru