Cynhaliodd Uned Atal Trais Cymru Seminar gyntaf Cymru Heb Drais ar 24 Hydref 2024. Rhoddodd y seminar gyfle i bartneriaid ddysgu mwy am dueddiadau trais ledled Cymru. Rhoddodd Dr Alex Walker a Shauna Pike, Swyddogion Canlyniadau Atal Trais Uned Atal Trais Cymru, gyflwyniad ar y darlun o drais yng Nghymru, gan ddefnyddio data o Adroddiad Monitro Trais Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y tueddiadau o ran trais fel rhan o wyth thema wahanol:
- Trais rhyngbersonol
- Trais ymhlith plant a phobl ifanc
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Trais yn erbyn pobl hŷn
- Yr economi liw nos a thrais sy'n gysylltiedig ag alcohol
- Trais sy'n gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol
- Trais sy'n gysylltiedig â throseddau casineb
- Cynnwys niweidiol ar-lein
I ddysgu mwy am y tueddiadau, darllenwch ein hadroddiadau ar Borth Atal Trais Cymru. Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer creu cyfrif ar Borth Atal Trais Cymru (defnyddiwch gyfeiriad e-bost sefydliadol wrth gofrestru ar gyfer y porth).
Rhoddwyd arddangosiad o'r Porth gan Emma Barton, y Rheolwr Canlyniadau Atal Trais. Dangosodd yr arddangosiad i'r rhai a oedd yn bresennol sut y gellir cael gafael ar ddata o'r Porth a sut y gellir eu defnyddio i ddeall y tueddiadau o ran trais yng Nghymru. Mae'r Porth yn cynnwys data dienw ar drais yng Nghymru ac mae'n galluogi defnyddwyr i gyfuno a chyflwyno ffynonellau newidynnau data gwahanol gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys graffiau, siartiau, tablau, adroddiadau a mapiau rhyngweithiol o ardaloedd lleol a chenedlaethol. Gall y Porth wella gwaith cydweithredu amlasiantaethol er mwyn atal trais, drwy alluogi defnyddwyr i ddefnyddio a chymharu data lleol a chenedlaethol o sawl ffynhonnell, gan gynnwys data ar iechyd a'r heddlu, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau gweithredol a strategol.
Roedd y seminar hefyd yn cynnwys astudiaeth achos ar sut y mae data wedi'u defnyddio i lywio ymyriadau'r Uned Atal Trais. Roedd yr astudiaeth achos hon yn seiliedig ar yr ymgyrch sy'n mynd i'r afael â throseddau cyllyll, #DdimYrUn, a chafodd ei chyflwyno gan Daniel Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru a Bryony Parry, yr Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Dangosodd y cyflwyniad sut mae data o'r Porth yn cael eu defnyddio i lywio gweithgarwch a neges yr ymgyrch. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau amrywiol yr ymgyrch a'r ffordd y maent yn gwella ymgysylltiad cymunedol er mwyn lleihau ac atal troseddau cyllyll ymhlith plant a phobl ifanc, gan greu amgylcheddau cymunedol mwy diogel a Chymru fwy diogel i bawb. Cliciwch yma i wybod mwy am ymgyrch #DdimYrUn.
“Adnodd gwych iawn. Rwyf wedi bod yn gofyn am ddata gan bartneriaid ac mae cyfoeth o ddata yma.”
Cyfranogwr y seminar
“Mae'n dda gweld bod cynlluniau ar waith o ran gwella data ... mae ansawdd data yn bwysig iawn. Mae deall lle y caiff data eu cadw a rhoi gwybod am hynny er mwyn eu gwella yn bwysig.”
Cyfranogwr y seminar