"Mae dewis arall bob amser, ffordd arall o ymdrin â sefyllfa sydd ddim yn cynnwys codi cyllell."
Casglodd y fideo ymgyrch a lansiwyd ar gyfer Cam 2 #DdimYrUn lawer o adborth cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda llawer yn dweud fod yr ymgyrch yn 'bwerus a dylanwadol'. Bu Uned Atal Trais Cymru yn cyfweld â dau ysgrifennydd sgript y fideo ymgyrch- Courtney Jade-Francis ac Ines Renaldi o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ystod y cyfweliad, rhoddodd Courtney ac Ines gipolwg i ni o'r broses o ysgrifennu'r sgript, penderfynu ar arddull a thôn y fideo yn ogystal â'r neges.
Wrth fod wedi tyfu i fyny yn Islington, mae Ines wedi gweld effeithiau troseddau cyllyll yn y gymuned ac felly mae atal troseddau cyllyll fel pwnc yn weddol bersonol iddi. "Fel awdur, nid wyf byth yn ymgymryd â phrosiect oni bai fy mod yn gwybod y gallaf uniaethu'n emosiynol â'r pwnc, a bod stori gwerth ei hadrodd ynddo. Roedd ymgymryd â'r un yma yn sicr yn teimlo fel y peth cywir i'w wneud," meddai Ines. Er mwyn creu fideo ymgyrch dylanwadol, roedd Courtney ac Ines eisiau i'r fideo fod yn un y byddai'r gynulleidfa'n gallu ymgolli'n llwyr ynddo. Felly penderfynwyd chwarae'r fideo ar sgrin ffôn - er mwy gwneud i'r gynulleidfa deimlo fel petasent ar alwad ffôn fideo â rhywun y maent yn ei adnabod. "Y syniad yw eich datgelu i safbwynt aelod o deulu yn gwylio ei hanwylyd yn ei gael ei hun mewn sefyllfa a allai fod yn beryglus," eglurodd Courtney, gydag Ines yn ychwanegu bod y sgrin ffôn yn dod â'r cymeriadau yn fyw a bod modd i'r gynulleidfa darged uniaethu â'r profiad o gymryd cynnwys eu ffonau i mewn - "Dangosais y fideo i fy mrawd iau sydd o fewn grŵp oedran ein cynulleidfa darged, a chyfaddefodd fod gwylio'r golygfeydd ar ffurf sgrin ffôn wedi cynnal ei sylw am fwy o amser nag a fyddai fideo wedi cael ei ffilmio gydag onglau arferol." Mae cael y fideo ar ffurf unionsyth hefyd yn ei gwneud hi'n haws iddo gael ei bostio ar amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan ei alluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
"Mae'r fideo yn glyfar am iddo bortreadu'r bachgen ifanc sydd â chyllell fel yr un sydd wedi'i drywanu erbyn diwedd y fideo; mewn achosion gwir, bydd unigolion gan amlaf wedi cael eu trywanu gan eu cyllell eu hunain. Mae angen iddynt ddeall eu bod yn fwy tebygol o fod mewn perygl drwy estyn cyllell, a'u bod hefyd yn rhoi eu ffrindiau, aelodau o'u teulu a'u hanwyliaid mewn perygl drwy wneud hyn," meddai Ines. Aeth Courtney yn ei blaen i ddweud yr hoffai i'r gynulleidfa ddeall "bod dewis arall bob amser, a ffordd arall o ymdrin â sefyllfa sydd ddim yn cynnwys codi cyllell." Nododd y ddwy bod yr adborth gan eu ffrindiau a'u cymheiriaid yn awgrymu i'r neges gael ei deall gan y gynulleidfa.
"Cafodd ail lansiad yr ymgyrch ei ddisgrifio fel un 'treiddgar' a oedd yn 'llygad ei le,' a chredaf fod hynny'n bwysig iawn i'r tîm cyfan wrth greu'r fideo," meddai Courtney. Nodwyd ganddi hefyd eu bod wedi canolbwyntio ar beidio â chreu fideo a fyddai'n codi ofn wrth ysgrifennu'r sgript, ond a fyddai'n ddigon dylanwadol i'w annhueddu rhag bod eisiau cario cyllell. Rhannodd Courtney ac Ines fod y broses o greu sgript a fideo yn un 'heriol' ac 'anodd', ond gyda'r gweithdai ysgrifennu, llwyddant i ganfod y cydbwysedd rhwng 'neges ataliol ac un a all godi ofn ar y gynulleidfa'.
Yn ôl yr adborth, ymddengys bod Courtney ac Ines wedi llwyddo i ysgrifennu sgript gyda'r cydbwysedd perffaith o fideo sy'n hynod ddylanwadol, heb godi gormod o ofn ar neb gan fod llawer wedi nodi eu bod eisiau i'r fideo fod yn hirach na dwy funud o hyd. "Cefais adborth gan fy ffrindiau a ddywedodd ei fod yn ddarn hynod bwerus, ond un feirniadaeth a glywsom oedd bod pobl eisiau iddo fod yn hirach, sy'n cynnig cyfle am ail fideo yn y dyfodol!" rhannodd Ines.