Jump to content

Shore- Creu lle diogel i bobl yn eu harddegau sy'n poeni am ymddygiad a meddyliau rhywiol.

Dau boster (un yn Saesneg ac un yn Gymraeg) gyda merch a bachgen: "Anfonodd rhywun ffotograff noeth ata i y diwrnod o'r blaen a dwi'n methu anghofio amdano. Mae wir wedi fy nigalonni!      Cymerwch olwg ar Shore- gwefan i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n poeni am ymddygiad neu feddyliau rhywiol eu hunain neu eraill. Mae ganddynt wasanaeth e-bost a gwasanaeth sgwrsio dienw lle gallwch sgwrsio â nhw. Byddant yn gallu eich helpu."
  • Ydych chi'n poeni eich bod wedi niweidio rhywun yn rhywiol?
  • Ydych chi'n meddwl bod rhywun wedi ceisio meithrin perthynas amhriodol â chi?
  • Ydych chi'n poeni am ffotograff noeth rydych chi wedi ei anfon neu wedi ei dderbyn?
  • Ydych chi'n poeni bod eich ffrind yn cael ei niweidio'n rhywiol gan rywun?
  • Ydych chi'n poeni bod gan eich ffrind ymddygiad rhywiol problemus?
  • Ydych chi'n poeni bod gennych feddyliau rhywiol niweidiol?

Wedi'i dylunio gan arbenigwyr yn Sefydliad Lucy Faithfull, a'i chefnogi gan bobl ifanc ac yn hollol ddienw, Shore yw'r wefan gyntaf o'i bath yn Ewrop. Mae wedi'i dylunio i greu lle diogel i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n poenai am feddyliau neu ymddygiad rhywiol eu hunain neu eraill. Gall bobl yn eu harddegau ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrsio dienw sydd ar gael ar ddydd Llun 2-5pm a dydd Mercher 5-8pm neu gallant anfon e-bost yn ddienw at arbenigwyr am feddyliau neu ymddygiad problemus / niweidiol eu hunain neu eraill. Mae gan y wefan hefyd lyfrgell o bynciau gyda chanllawiau ar ryw a'r gyfraith, rheoli emosiynau anodd, lleoedd diogel i ddysgu am ryw, ymddygiad rhywiol ar-lein, pornograffi a chynnwys perthnasol eraill sy'n anelu i addysgu pobl yn eu harddegau am ymddygiad ac agweddau rhywiol diogel.

Dolen i'r wefan:

https://shorespace.org.uk/