Jump to content

Myfyrwyr yn Datblygu'r Fframwaith yn Gemau Ar-lein i Helpu Mwy o Bobl Ifanc

Mae myfyriwr yn dangos ei waith sydd wedi'i osod ar fwrdd cyflwyno.

Mae myfyrwyr wedi mynd â Fframwaith Cymru Heb Drais i'r lefel nesaf drwy ddylunio gemau yn seiliedig ar y naw strategaeth i atal trais ymysg plant a phobl ifanc.

Mae pob gêm yn unigryw ac yn archwilio effaith trais, ac atebion i roi diwedd arno, o safbwynt y datblygwr. Mae'r testunau'n cynnwys bwlio, troseddau casineb, aflonyddu a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae'n rhaid i'r chwaraewyr lywio lefelau er mwyn ennill y gêm ac, yn y pen draw, creu Cymru Heb Drais.

Er enghraifft, mewn un gêm, mae bachgen yn cael ei fwlio ac mae'n rhaid iddo gasglu ffonau ac arian er mwyn iddo allu ffonio oedolyn y gellir ymddiried ynddo a dal bws i fan diogel.

Cyn datblygu'r gemau, cyfarfu myfyrwyr ar Gwrs Game Design Media Academy Cymru ag Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective i drafod Fframwaith Cymru Heb Drais ac ystyried sut y gallent ddefnyddio ei gynnwys i ddatblygu gêm a fyddai'n helpu pobl ifanc eraill i ddysgu am achosion sylfaenol trais a'r hyn a allai roi diwedd arno.

"Mae pawb yn dysgu yn eu ffyrdd eu hunain, ac mae gan bawb eu sgiliau, eu profiadau a'u diddordebau eu hunain. Mae Media Academy Cymru yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau y gall dysgwyr weithio i'w cyflawni mewn lle diogel a chefnogol, ac mae cwrs Game Design yn un o'r cynigion diweddaraf.

“Roeddwn i'n falch iawn o weithio gyda Peer Action Collective Cymru ac Uned Atal Trais Cymru i ddatblygu modiwl a fyddai'n galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau ym maes datblygu gemau, gan ddysgu hefyd am achosion sylfaenol trais a'r hyn sy'n gweithio i'w atal.

“Mae cynnig cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallan nhw fod yn rhan o'r sgyrsiau sy'n cael eu cynnal ynglŷn â sut i roi diwedd ar drais ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru, a gallwn nawr ddefnyddio'r gemau y mae'r myfyrwyr wedi'u datblygu i gefnogi sgyrsiau â phlant a phobl ifanc eraill.”

Bex Betton, Pennaeth Gaming Hub yn Media Academy Cymru

“'Roedd y dasg yn dda, roedd Steph a Bryony [o Media Academy Cymru ac Uned Atal Trais Cymru] yn neis iawn, ac roedd yn ddiddorol dysgu am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Cawson ni gyfle i greu gemau sy'n bwysig i ni, ond a fydd hefyd yn cael eu defnyddio gan eraill. Roedd creu'r gemau yn dasg ymlaciol, ac rwy'n falch o'r cynnydd wnes i"

Un o'r myfyrwyr

Mae'r gemau ar gael i'w gweld a'u chwarae ar-lein yn: MEDIA ACADEMY CYMRU - itch.io