Jump to content

Cymorth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghaerdydd y Nadolig hwn

Mae Uned Atal Trais Cymru yn annog pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n teimlo'n bryderus, yn ansicr neu'n ofidus am eu hymddygiad eu hunain neu ymddygiad ffrind i geisio cymorth y Nadolig hwn.

Canfu ymchwil a gyflawnwyd gan yr Uned fod llawer o linellau cymorth wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc a oedd yn ceisio cymorth ar gyfer eu llesiant meddyliol yn ystod y pandemig, a nodwyd bod llawer wedi bod yn teimlo'n unig ac yn bryderus. Mae rhai gwasanaethau wedi gweld cynnydd yn nifer y troseddau a gaiff eu cyflawni gan bobl ifanc hefyd, gan gynnwys achosion o ymosod a meddu ar gyffuriau ac arfau.

Nawr, wrth i Gymru baratoi ar gyfer dathliadau gwahanol i'r arfer dros gyfnod y Nadolig, mae'r Uned yn tynnu sylw at wasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl ifanc er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn cael y cymorth a'r canllawiau sydd eu hangen arnynt.


“Wrth i bobl ifanc dreulio mwy o amser gartref dros gyfnod y Nadolig, ynghyd â chyfyngiadau lefel 4, rydym yn bryderus y gall y rhai sy'n agored i niwed ddioddef mwy o niwed, tra bo llai o wasanaethau gofal a chymorth ar gael iddynt.

“Rydym am i bobl ifanc yng Nghaerdydd wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain – ac mae pobl yn barod i'w helpu os ydynt yn teimlo'n bryderus, yn ansicr neu'n ofidus am eu hymddygiad eu hunain neu ymddygiad ffrind.

“Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, ac rydym am wneud yn siŵr bod pobl ifanc yng Nghaerdydd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ni waeth beth fo'r broblem.”

Jonathan Drake, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru

Gwasanaethau Cymorth Caerdydd i Bobl Ifanc:

Meic

Mae Meic yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc, yn ogystal â llinell gymorth eirioli.

Ffoniwch 080880 23456 unrhyw ddiwrnod rhwng 8am a hanner nos
Mae'r gwasanaeth hwn am ddim ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil ffôn.

Anfonwch neges destun i 84001 unrhyw bryd
Ni chodir tâl ac ni fydd y neges i'w gweld ar eich bil ffôn.

Gallwch siarad ar-lein un i un ag aelod o'r tîm rhwng 8am a hanner nos

Ewch i wefan Meic

Fearless

Mae Fearless yn cynnig gwasanaeth adrodd dienw sy'n golygu y gallwch roi gwybod am drosedd neu bryder heb orfod rhoi eich enw na manylion personol.

Manylion cyswllt: 0800 555 111

Ewch i wefan Fearless


Media Academy Cymru

Mae Media Academy Cymru yno i helpu i sicrhau bod gan bobl ifanc yr adnoddau a'r hunan-barch sydd eu hangen arnynt i lwyddo, gwneud cyfraniad o bwys i'w cymunedau a gwneud dewisiadau gwell. Mae'r tîm yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i helpu pobl ifanc i ganfod yr hyn maent yn frwd drosto a'u tywys tuag at ddyfodol mwy disglair.

Manylion cyswllt:
info@mediaacademycymru.wales

Sefydliad Clwb Pêl-droed Caerdydd

Rhaglen allgymorth ieuenctid yw Kicks sy'n ceisio creu cymunedau mwy diogel a lleihau troseddu drwy gynnal sesiynau pêl-droed am ddim ar gyfer pobl ifanc yn Ne Cymru yn ogystal â chyfleoedd datblygu personol.

Rydym wedi creu nifer o weithgareddau ar-lein i bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed gymryd rhan gartref yn ddiogel.

Mae gweithgareddau ar-lein Kicks yn cynnwys:

• Galwadau fideo grŵp (a fydd yn cynnwys chwaraewyr o dîm cyntaf Dinas Caerdydd o bryd i'w gilydd)

• Heriau pêl-droed

• Heriau ffitrwydd

• Gweithdai ar ffyrdd iach o fyw, diogelwch cymunedol a choetsio cymunedol

• Twrnameintiau FIFA

Cofrestrwch ar gyfer gweithgareddau yma


Cymru Ddiogelach

Mae Cymru Ddiogelach yn helpu merched ifanc sy'n cael eu hecsbloetio neu sy'n dioddef mathau eraill o niwed. Mae gweithwyr achos arbenigol yn darparu cymorth helaeth er mwyn cael mynediad at weithgareddau, sesiynau un i un a chymorth yn y gymuned. Mae Cymru Ddiogelach yn rhoi'r cyfle i ferched ifanc gymryd rhan yn rhaglen Champions of Wales er mwyn eu helpu i fagu hyder os ydynt yn teimlo eu bod wedi'u hymddieithrio oddi wrth wasanaethau ehangach. Mae gweithwyr arbenigol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan weithio i newid canfyddiadau ac agweddau tuag at ferched.

Manylion cyswllt:
rb@saferwales.com



Future 4

Mae Future 4 yn helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i adeiladu bywyd gwell ac osgoi dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol. Mae gweithwyr achos arbenigol yn darparu cymorth helaeth i helpu pobl i ddeall y cryfderau sydd ganddynt i oresgyn rhwystrau maent yn eu hwynebu ac achub ar gyfleoedd i symud ymlaen yn hyderus heb ddod i gysylltiad pellach â'r system cyfiawnder troseddol. Darperir cymorth yn nalfeydd yr heddlu ac yn y gymuned. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bob menyw sy'n 18 oed a throsodd ac i oedolion ifanc rhwng 18 a 25 oed.

Manylion cyswllt:
wsa@saferwales.cjsm.net (menywod 17 oed) / Future4@uk.g4s.cjsm.net

Ymddiriedolaeth St Giles

Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn helpu pobl i oresgyn rhwystrau a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen yn eu bywydau. Gall pobl ifanc siarad â gweithwyr cymorth yr ymddiriedolaeth am beth bynnag sy'n eu poeni a dechrau cael y cymorth maent yn ei haeddu.

Manylion cyswllt: 02920 496363 / info@stgilestrust.org.uk