Mae arolwg ar gael nawr i bobl sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru ac sydd wedi bod yn dyst i gam-drin domestig neu'r arwyddion ei fod yn digwydd yn ystod pandemig COVID-19.
Mae'r arolwg yn rhan o waith ymchwil hanfodol ar gam-drin domestig sy'n cael ei gynnal gan Uned Atal Trais Cymru a Phrifysgol Caerwysg. Diben y gwaith yw ymchwilio i brofiadau ac ymddygiadau'r rhai sy'n dyst i achosion o drais a cham-drin domestig neu y mae ganddynt bryderon am achosion o'r fath a'r arwyddion eu bod yn digwydd yn ystod COVID-19.
Mae'r tîm ymchwil yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru rannu, yn ddienw, eu profiad o fod yn dyst i achosion o gam-drin domestig neu eu pryderon am gam-drin domestig yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau y gall gwylwyr gael y wybodaeth, y sgiliau a'r hyfforddiant cywir sydd eu hangen arnynt i ymyrryd yn ddiogel a helpu mwy o bobl yn y dyfodol.
“Mae atal cam-drin domestig yn fusnes i bawb ac mae'n bosibl y bydd llawer o bobl mewn sefyllfa lle maent yn “wyliwr” am y tro cyntaf.
“Bydd yr arolwg hwn yn amhrisiadwy wrth ddeall sut mae gwylwyr wedi ymddwyn yn ystod y pandemig, a ph'un a yw'r cyfyngiadau cymdeithasol sydd ar waith i ddiogelu pobl rhag COVID-19 wedi effeithio ar yr hyn a all fod yn ymyrraeth a all newid bywydau goroeswyr trais a cham-drin domestig. Yn ei dro, credwn y bydd y gwaith ymchwil yn helpu i lywio polisïau a gweithgareddau ataliol yng Nghymru a thu hwnt, er mwyn helpu mwy o bobl sydd wedi goroesi cam-drin domestig.”
Lara Snowdon, Arbenigwr Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ers i'r cyfyngiadau symud ddod i rym ar ddechrau 2020, rydym wedi cael rhybuddion clir gan arweinwyr byd-eang am y risg y bydd pobl yn wynebu “pandemig cysgodol” o gamdriniaeth yn eu cartrefi*. Yng Nghymru, bu cynnydd o 41% yn nifer y bobl a ffoniodd y llinell gymorth Byw Heb Ofn ers mis Ebrill 2020.
Gan fod cynifer o'r boblogaeth yn parhau i ddilyn y canllawiau “aros gartref”, mae llai o gyfleoedd i oroeswyr gael cymorth ac i wylwyr, fel teulu, ffrindiau, gwirfoddolwyr a chydweithwyr pryderus, ymyrryd. Fodd bynnag, gyda llawer o bobl yn rheoli cymaint o'u bywydau yn eu cartrefi erbyn hyn, mae cyfleoedd newydd i grwpiau gwahanol o bobl, gan gynnwys cymdogion, cydweithwyr yn ystod cyfarfodydd rhithwir a gyrwyr danfon nwyddau, adnabod arwyddion cam-drin a chymryd camau diogel.
Cliciwch yma i gymryd yr arolwg
Cwestiynau Cyffredin am yr Arolwg
Sut y gallaf helpu?
Os credwch i chi fod yn dyst i achos o gam-drin domestig – neu os ydych wedi bod yn pryderu am achosion o'r fath – neu unrhyw rai o'r arwyddion ei fod yn digwydd yn ystod y pandemig, mae'r tîm ymchwil yn awyddus i glywed gennych. Ewch i www.violencepreventionwales.co.uk/cy/survey a dilynwch y ddolen i gwblhau'r arolwg.
Beth fydd angen i mi ei wneud?
Ni ddylai'r arolwg gymryd gormod o'ch amser – tua 30 munud – a rhaid iddo gael ei gwblhau ar-lein.
Yn ystod yr arolwg, gofynnir cwestiynau i chi am eich ffordd o fyw yn ystod y pandemig, eich dealltwriaeth o gam-drin domestig, y mathau o gam-drin neu'r arwyddion rydych wedi bod yn dyst iddynt neu wedi bod yn pryderu amdanynt yn ystod y pandemig, a pha gamau – os o gwbl – y gwnaethoch eu cymryd.
Gofynnir i chi hefyd a wnaeth amgylchiadau'r pandemig ddylanwadu ar y ffaith eich bod wedi bod yn dyst i ymddygiad camdriniol, ac a wnaeth yr amgylchiadau hyn newid y ffordd y gwnaethoch ymateb.
Yn ystod yr arolwg, efallai y bydd yn anodd neu'n drawmatig i chi gofio am eich profiadau, felly cofiwch y gallwch roi'r gorau i gwblhau'r arolwg unrhyw bryd. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn gwybod bod cymorth ar gael i chi bob awr o'r dydd. Cyn i chi ddechrau'r arolwg, cewch fanylion gwasanaethau cymorth a all eich helpu, felly gwnewch nodyn ohonynt cyn i chi ddechrau. Bydd y wybodaeth hon hefyd ar gael ar ôl i chi gwblhau'r arolwg.
A fyddant yn gwybod mai fi sy'n cwblhau'r arolwg?
Mae'r arolwg yn gwbl ddienw.
Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd yr arolwg, efallai y gofynnir i chi a hoffech gymryd rhan mewn cyfweliad ag ymchwilydd sydd eisiau gwybod mwy am eich profiad. Os ydych yn hapus i wneud hyn, gofynnir i chi ddarparu cyfeiriad e-bost er mwyn i'r ymchwilydd allu cysylltu â chi o fewn yr ychydig ddiwrnodau nesaf.
Beth ddylwn i ei wneud os credaf fod rhywun yn cael ei gam-drin?
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, dylech ffonio 999 a bydd yr heddlu yn ymateb. Os bydd angen help distaw arnoch, gallwch ffonio 999 ac yna pwyso 55 pan fydd y sawl sy'n ateb yr alwad yn dweud hynny. Os nad yw'n argyfwng, gallwch gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ferched Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, ar gael bob awr o'r dydd i'ch cynorthwyo. Os ydych wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu os ydych yn poeni am ffrind neu berthynas sy'n profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth, gallwch ffonio'r llinell gymorth i gael help a chyngor cyfrinachol.
Caiff y llinell gymorth ei rhedeg gan dîm medrus a all gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ffoniwch: 0808 80 10 800
Tecstiwch: 078600 77 333
E-bostiwch: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Gwe-sgwrs: bywhebofn.llyw.cymru