Mae Uned Atal Trais Cymru yn cefnogi pedwar heddlu Cymru i fynd i'r afael â throseddau yn ymwneud â chyllyll fel rhan o wythnos weithredu genedlaethol, a elwir yn Ymgyrch Sceptre.
Er gwaethaf y ffaith bod gostyngiad o 3% wedi bod yn nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu lle y defnyddiwyd cyllyll neu eitemau miniog yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020*, mae mynd i'r afael â throseddau yn ymwneud â chyllyll yn un o brif flaenoriaethau'r Uned, fel rhan o'i chenhadaeth i atal trais yng Nghymru.
Mae Ymgyrch Sceptre yn cynnig cyfle i dynnu sylw at ymdrechion yr heddlu ac asiantaethau partner wrth ymateb i drais difrifol a'i atal. Wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws barhau i gael eu llacio yng Nghymru, mae'n hollbwysig bod y cyhoedd yn gwybod am y gwaith sy'n mynd rhagddo i wneud Cymru'n fwy diogel, a bod pobl sydd wedi profi trais difrifol, neu sy'n wynebu risg o'i brofi, yn gwybod sut a ble y gallant gael cymorth.
Fel rhan o'r wythnos weithredu genedlaethol, bydd yr Uned yn gweithio'n agos gyda SchoolBeat, a fydd yn darparu gwersi ychwanegol am y peryglon sydd ynghlwm wrth gario cyllell i ddisgyblion ledled Cymru.
“Nid yw troseddau yn ymwneud â chyllyll yn anochel – gellir eu rhagfynegi a'u hatal fel unrhyw broblem iechyd cyhoeddus arall.
“Er mwyn cael gwared ar droseddau yn ymwneud â chyllyll, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd nawr i addysgu pobl am y peryglon sydd ynghlwm wrth gario cyllell, gwella systemau rhannu data er mwyn gallu deall y broblem yn iawn, a sicrhau bod y cymorth iawn ar waith i ddioddefwyr a throseddwyr.
“Mae'n glir, ac yn achos pryder i ni ac i'n partneriaid, fod rhai pobl ifanc o'r farn y byddant y fwy diogel os byddant yn cario cyllell. Nid yw hyn yn wir o bell ffordd. Rydych yn fwy tebygol o fod mewn perygl os byddwch yn cario cyllell, gan y gallai gael ei defnyddio yn eich erbyn – gallai hyn gael effaith ddinistriol ar eich bywyd chi ac ar fywydau eich ffrindiau a'ch teulu.
“Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i wneud Cymru'n fwy diogel. Ond, er mwyn datrys y broblem, mae'n rhaid i bawb gymryd rhan. Os byddwch yn poeni am eich ymddygiad eich hun, neu ymddygiad ffrind neu rywun sy’n agos atoch, mae pobl ar gael i chi siarad â nhw 24/7, am ddim, i roi cyngor a chymorth cyfrinachol, heb farnu.”
Jonathan Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru
Wyddech chi?
Yn ôl y gyfraith
- Mae gwerthu cyllell i unrhyw un o dan 18 oed yn anghyfreithlon, oni bai bod ganddi lafn plygu o 3 modfedd (7.6 cm) neu lai, er enghraifft cyllell Byddin y Swistir.
- Mae cario cyllell mewn man cyhoeddus yn anghyfreithlon os nad oes rheswm da dros wneud hynny (megis cyllell bysgota), oni bai bod ganddi lafn plygu o 3 modfedd neu lai.
- Mae cario, prynu neu werthu unrhyw fath o gyllell waharddedig neu ddefnyddio cyllell mewn modd bygythiol yn erbyn y gyfraith, gan gynnwys cyllyll â llafn plygu o 3 modfedd neu lai.
- Y newyddion da yw nad yw 99% o bobl rhwng 10 a 29 oed yn cario cyllell. Felly, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o beryglon cario cyllell, ond nid yw mor gyffredin â hynny.
- Ymhlith y ganran fach o bobl ifanc sy'n dewis cario cyllell, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dweud mai amddiffyn eu hunain yw'r rheswm. Fodd bynnag, mae saith o bob 10 o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer anafiadau cyllell wedi cael eu trywanu â'u cyllell eu hunain.
Os byddwch yn dewis cario cyllell rydych yn fwy tebygol:
- o ddioddef ymosodiad neu o gael eich bygwth gan bobl eraill, sydd hefyd yn dewis cario cyllell;
- o gael eich anafu neu waeth gan eich cyllell eich hun;
- o anafu neu hyd yn oed ladd rhywun â'ch cyllell (gan gynnwys anafu pobl gerllaw sy'n digwydd bod yno pan fydd pobl eraill yn ymladd).
I gael rhagor o wybodaeth a manylion gwasanaethau cymorth, ewch i www.violencepreventionwales.co.uk/cy/cefnogaeth
Gallwch roi gwybod am bryder neu drosedd yn ddienw unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos drwy fynd i www.fearless.org