Cyflwynodd Dr Alex Walker, Swyddog Canlyniadau Atal Trais, ei gwaith 'Trais yn Erbyn Pobl Hŷn yng Nghymru' yng Nghynhadledd Flynyddol Consortiwm UKPRP VISION ym mis Mehefin 2024, gan gefnogi Consortiwm VISION wrth ddatblygu ymchwil academaidd ar drais.
Yn ei chyflwyniad, dadansoddodd Dr Walker ddata o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw trais yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru. Roedd y ffynonellau data yn cynnwys yr Heddlu, y sector Iechyd a'r trydydd sector, ar gyfer trais yn erbyn yr unigolyn, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae canfyddiadau'r adroddiad yn dangos bod trais yn erbyn pobl hŷn yn broblem sylweddol o hyd yng Nghymru.
Caiff adroddiad newydd ei lunio bob blwyddyn, a disgwylir i'r adroddiad nesaf gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2024.
Mae'r holl ddata a ddarparwyd gan y sector iechyd a'r heddlu a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad ar gael ar Borth Cymru Heb Drais. Gallwch gofrestru ar ei gyfer yma.