Jump to content

Uned Atal Trais Cymru e-Fwletin Awst 2022

Mae ein e-fwletin Awst yn canolbwyntio ar baratoadau Cymru ar gyfer y Ddyletswydd Trais Difrifol, a sut y gall yr Uned Atal Trais, Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r Swyddfa Gartref, gefnogi partneriaethau i'w roi ar waith.

Rydym hefyd yn darparu diweddariad ar ddatblygu'r Fframwaith Strategol ar gyfer Atal Trais Ymhlith Plant a Phobl Ifanc, ac yn rhannu manylion am werthusiad diweddar #YmgyrchSaffCaelDweud

Mae newyddion, ymchwil ac adnoddau yr argraffiad hwn yn cynnwys Fframwaith Ymarfer Trawma Cenedlaethol Cymru, sydd newydd ei gyhoeddi, wedi'i ddatblygu gan Hwb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Straen Trawmatig Cymru, Canllawiau Statudol Deddf Cam-drin Domestig 2021 a gwybodaeth ar Brosiect REFLECT Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Darllenwch yr e-Fwletin yma.

Cysylltwch â ni os hoffech gael copi o'r e-Fwletin yn syth i'ch mewnflwch: phw.violencepreventionunit@wales.nhs.uk