Jump to content

Uned Atal Trais Cymru yn cyflwyno yng Nghynhadledd Flynyddol y Rhwydwaith Ewropeaidd ar Rywedd a Thrais

Image shows audience at European Network of Gender Violence Conference 2022

Cyflwynodd Uned Atal Trais Cymru ei hymchwil hanfodol ar brofiadau'r rhai a fu'n bresennol yn ystod achosion o gam-drin domestig yn ystod COVID-19 yng Nghynhadledd Flynyddol y Rhwydwaith Ewropeaidd a Rywedd a Thrais (ENGV) heddiw, 9 Mehefin 2022.

Roedd yr astudiaeth arloesol, a gyflawnwyd gan Uned Atal Trais Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerwysg ac a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ystyried profiadau ac ymddygiadau'r rhai a fu'n bresennol yn ystod achosion o gam-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19, er mwyn helpu i lywio polisïau a rhaglenni hyfforddiant ar ymyrryd i'r rhai sy'n bresennol yn ystod cam-drin domestig.

Nododd yr ymchwil fod pobl yn fwy tebygol o weithredu yn erbyn cam-drin domestig a'i arwyddion cynnar os byddant yn teimlo cysylltiad â'u cymuned, a bod addysg am beth yw cam-drin domestig a'i arwyddion cynnar a hyfforddiant ar sut i ymyrryd yn ddiogel yn hanfodol er mwyn i bobl deimlo'n hyderus i weithredu pan fyddant yn dyst iddo.

“Gwnaeth pandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny newid arferion dyddiol llawer o bobl. Roeddem am ddeall sut y gallai'r newidiadau hyn fod wedi effeithio ar bobl yn bod yn dyst i gam-drin domestig ac yn gweithredu yn ei erbyn, fel y gallem adeiladu'r sail dystiolaeth ar sut i atal trais a cham-drin domestig a chefnogi goroeswyr.

“Mae atal cam-drin domestig yn fusnes i bawb, ac mae'n bwysig ein bod yn defnyddio'r ymchwil hon i ddeall yn well yr heriau i'r rhai sy'n bresennol yn ystod achosion o gam-drin a'r hyn sy'n eu cymell er mwyn i ni allu cefnogi pawb i gydnabod cam-drin domestig ac arwyddion o achosion o'r fath ac ymateb yn ddiogel iddynt.”

Dr Alex Walker, Prif Ymchwilydd a Swyddog Canlyniadau Atal Trais ar gyfer Uned Atal Trais Cymru

Mae'r Rhwydwaith Ewropeaidd ar Rywedd a Thrais yn rhwydwaith o fwy na 300 o ymchwilwyr o ddisgyblaethau a gwledydd gwahanol. Mae'n helpu ysgolorion a gweithwyr proffesiynol sy'n mynd i'r afael â thrais, rhywedd, atal trais a materion cysylltiedig i gyfnewid gwybodaeth a chydweithio. Mae'r rhwydwaith yn cynnal cynadleddau blynyddol i hwyluso trafodaethau am yr ymchwil Ewropeaidd ddiweddaraf yn y maes.

Lawrlwytho'r Adroddiad Profiadau Rhai sy'n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19

Image shows divide to indicate notes to editor

Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn hefyd ar gael bob awr o'r dydd a'r nos i bobl sydd wedi bod yn destun cam-drin domestig neu sy'n destun cam-drin domestig ar hyn o bryd neu i bobl sy'n poeni am ffrind neu berthynas.

Llinell Gymorth: 0808 80 10 800

Testun: 078600 77333

Gwasanaeth gwe-sgwrs: llyw.cymru/byw-heb-ofn

Rhagor o wybodaeth: llyw.cymru/byw-heb-ofn

Mae Llinell Ffôn Respect yn cynnig help i gyflawnwyr cam-drin domestig sydd am newid. Mae'r llinell gymorth gyfrinachol ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am ac 8pm:

Llinell Gymorth: 0808 8024040

Rhagor o wybodaeth: respectphoneline.org.uk