Mynychodd Uned Atal Trais Cymru a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru y Gynhadledd Ewropeaidd ar Orfodi'r Gyfraith ac Iechyd Cyhoeddus (LEPH) yn Sweden yr wythnos hon. Y thema eleni oedd “Gyda'n gilydd tuag at gymunedau cydnerth.”
Gwnaeth yr Uned Atal Trais a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru gyd-arwain dwy sesiwn fawr, sef:
- Cymru – gwlad sy'n ystyriol o drawma: Gosod y sylfaen
Roedd y sesiwn hon yn edrych ar hanfodion y gwaith y mae'r Uned Atal Trais a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn ei wneud i ddatblygu gwlad ystyriol o drawma. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu ffyrdd o weithio yng Nghymru sy'n pontio'r croestoriad iechyd cyhoeddus a gorfodi'r gyfraith, ac yn hynny o beth, yn gosod y sylfeini i roi dulliau ac ymyriadau ar waith sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau Cymreig amrywiol.
- Cymru: Ymyriadau ymarferol sy'n gweithio
Cyflwynodd y sesiwn hon rai o'r gweithgareddau ac ymyriadau mwy ymarferol a arweiniodd at ganlyniadau sydd wedi cefnogi cymunedau Cymru; a chyfle i drafod ‘beth sy'n gweithio’ i esgor ar gydweithredu effeithiol rhwng gorfodi'r gyfraith, iechyd cyhoeddus a chymdeithas Cymru.
Y sesiwn olaf oedd y Farchnad Syniadau, Dulliau ystyriol o drawma i blismona, trallod yn ystod plentyndod ac ymyrryd yn gynnar: Beth mae ymwybyddiaeth ystyriol o drawma yn ei olygu ar gyfer ymarfer?
Roedd yn gyfle i Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru ac Uned Atal Trais Cymru arddangos amrywiaeth o adnoddau y mae modd eu defnyddio i lywio datblygiad cynhyrchion hyfforddi hygyrch ar drallod ac arferion ystyriol o drawma, ac atal trais.
Mae LEPH wedi bod yn gyfle gwych i arddangos enghreifftiau o weithgareddau arloesol wedi'u llunio ar y cyd ac wedi'u harwain gan dystiolaeth ar lefel strategol ac ymarfer, a fydd yn cefnogi Cymru gyda'i nod i fod yn wlad ystyriol o drawma erbyn 2025. Nod y sesiynau oedd egluro sut mae Cymru'n cydweithio tuag at gymunedau cydnerth, wedi'u galluogi gan gyfeiriad ac ymrwymiad strategol ar y cyd i gymryd dull iechyd cyhoeddus i atal trais ym meysydd iechyd a phlismona ac roedd yn gyfle i ystyried sut mae'r cydweithredu hyn yn gweithio yn ymarferol i gyflawni newid gwirioneddol a pharhaol i Gymru.
Dr Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Rhaglen ACEs, Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
LEPH 2023
LEPH2023 Ewrop yw'r gynhadledd ranbarthol Ewropeaidd gyntaf i ystyried croestoriadau cymhleth ac amrywiol gorfodi'r gyfraith ac iechyd cyhoeddus, sy'n cynnwys ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr o'r sectorau hyn ac o sectorau cysylltiedig eraill. Mae'n parhau â chyfres gynadledda ryngwladol LEPH, gyda chyfle i ganolbwyntio ar faterion rhanbarthol allweddol.
Y brif thema ar gyfer LEPH2023 Ewrop yw ‘Gyda'n gilydd tuag at gymunedau cydnerth’, gan adeiladu ar gynadleddau LEPH blaenorol sydd wedi disgrifio a dadansoddi'r materion, astudio ystod enfawr o ymatebion gwirioneddol a phosibl ar raddfa fyd-eang a phwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth gydweithredol mewn polisi ac arferion.
Adnoddau pellach
Er mwyn dysgu mwy am y Gynhadledd, cliciwch yma.
Er mwyn ymweld â thudalen we Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru gyda chrynodebau sesiwn a dogfennau ategol, cliciwch yma.