Mae Uned Atal Trais Cymru yn annog pobl i barhau i gadw llygad am arwyddion bod plant a phobl ifanc yn cael eu niweidio a'u cam-drin dros y Nadolig hwn.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Uned Atal Trais Cymru heddiw, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol bosibl y mae Covid-19 wedi'i chael ar blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.
Dangosodd yr adroddiad fod llinell gymorth NSPCC i oedolion wedi gweld cynnydd o bron i 30% yn nifer yr adroddiadau am blant neu bobl ifanc a oedd yn wynebu camdriniaeth neu drawma pan oedd yr ysgolion wedi cau yn gynharach eleni. Yn yr un modd, gwelodd sawl llinell gymorth gynnydd sylweddol yn nifer y plant a'r bobl ifanc a oedd yn ceisio cymorth ar gyfer eu lles meddyliol a dywedodd sawl un ohonynt eu bod wedi bod yn teimlo'n unig ac yn bryderus.
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig gwahanol iawn i'r arfer, mae'r Uned yn annog pobl i gadw llygad am arwyddion bod plant a phobl ifanc yn cael eu niweidio a'u cam-drin. Gallai'r arwyddion hyn gynnwys newidiadau na ellir eu hegluro mewn ymddygiad, meithrin cydberthnasau newydd ac amhriodol (megis gyda phobl sy'n llawer hŷn na nhw), mynd i'w cragen, ymddangos yn bryderus neu redeg i ffwrdd.
Dywedodd Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru: “Pan oedd yr ysgolion wedi cau yn gynharach eleni, gwelsom gynnydd cyflym yn nifer yr adroddiadau gan oedolion o achosion o niweidio a cham-drin plant a phobl ifanc, yn ogystal ag adroddiadau gan blant a phobl ifanc eu hunain am eu llesiant meddyliol.
“Gan fod plant a phobl ifanc yn treulio mwy o amser gartref dros y Nadolig, rydym yn poeni y gall y rheini sy'n agored i niwed fod yn cael eu niweidio'n fwy, gyda llai o gymorth a gofal ar gael yn sgil y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd i reoli'r Coronafeirws.
“Gall fod yn anodd gwybod at bwy i droi os oes pryderon gennych am blentyn, a gall yr arwyddion godi yn sgil rhywbeth arall sy'n digwydd yn ei fywyd. Fodd bynnag, os ydych yn poeni, dylech leisio eich barn a rhannu eich pryderon.
“Mae cymorth ar gael o hyd gan wasanaethau megis yr NSPCC, sydd wedi parhau i weithio'n ddiflino er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig hwn. Mae llinell gymorth yr NSPCC ar gael bob awr o'r dydd, saith diwrnod yr wythnos a gall eu cynghorwyr eich helpu i asesu'r sefyllfa.”
Caiff oedolion sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc eu hannog i roi gwybod am bryderon i'r NSPCC.