Jump to content

Digwyddiad Lansio Cymru Heb Drais

Cymru Heb Drais: Fframwaith ar gyfer Atal Trais Ymhlith Plant a Phobl Ifanc a Rennir.

Ar 19 Ebrill 2023, daeth plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru at ei gilydd i lansio Cymru Heb Drais: Fframwaith ar gyfer Atal Trais Ymhlith Plant a Phobl Ifanc a Rennir.

Lawrlwytho'r Llawlyfr

Mae’r Fframwaith, a luniwyd ar y cyd gan Peer Action Collective Cymru ac Uned Atal Trais Cymru, yn cynrychioli gweledigaeth a rennir ar gyfer atal trais yng Nghymru. Mae'n ganllaw i weithwyr proffesiynol, sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth a'i lywio gan safbwyntiau, profiadau a dyheadau mwy na 1,000 o blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

This image shows the stage with the slides ready for presentations. It includes the speakers chairs and green stage lights.

Ewch i wefan Cymru Heb Drais

Cynhaliwyd y digwyddiad lansio yn Tramshed, Caerdydd, a oedd yn arddangos y Fframwaith a’r dull a alluogodd Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru i’w gynhyrchu. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl o wahanol sectorau yn mynychu’r digwyddiad, a bu’n gyfle i ddathlu’r ymroddiad a’r gefnogaeth a ddangoswyd gan y plant, y bobl ifanc a'r gweithwyr proffesiynol drwy gydol datblygiad y Fframwaith.

Drwy gyfres o weithgareddau a gynhaliwyd gan y bobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’i ddatblygiad, cafodd gwesteion gyfle i ystyried sut y gallant symud y Fframwaith yn ei flaen yn eu hardal, yn ogystal â chlywed gan y plant a'r bobl ifanc pam bod atal trais yn bwysig iddynt, a'r hyn maen nhw'n meddwl fydd yn gweithio i wireddu'r weledigaeth o Gymru heb drais. Cynhaliodd tîm Peer Action Collective Cymru weithdy Sinema i gyfranogwyr wylio ffilmiau a grëwyd ganddynt a'r plant y maent wedi gweithio gyda nhw dros y 18 mis diwethaf, a ddilynwyd gan sesiwn holi-ac-ateb. Cynhaliodd Changemakers o Ysgol Uwchradd Cathays eu gweithgaredd eu hunain hefyd, sef y Wal Gelf. Roedd yn gyfle gwych i weld eu gwaith a chlywed gan y plant a'r bobl ifanc pam mae atal trais yn bwysig iddyn nhw. Cawsom gyfle hefyd i gynnal gweithdy ein hunain ar weithredu'r Fframwaith, lle roedd y gwesteion yn gallu ystyried y blaenoriaethau ar gyfer datblygu pob un o'r naw strategaeth yn eu maes gwaith.

Daeth y digwyddiad lansio i ben gyda phanel Holi ac Ateb dan arweiniad Nick Corrigan, Prif Weithredwr, Media Academy Cymru, Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Annamae Sullivan, Swyddog Datblygu LHDTC+, Academi Cyfryngau Cymru (Casnewydd ), Callum Bruce-Philips, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Gofalwyr Ifanc, YMCA Abertawe, Steph McArdle, Cydlynydd PAC, Academi Cyfryngau Cymru, Joseph Lloyd, Rheolwr Dargyfeirio, Academi Cyfryngau Cymru (Caerdydd) a Nandana, Gwneuthurwr Newid o Ysgol Uwchradd Cathays, sydd i gyd cymryd cwestiynau ar sut i greu Cymru heb drais.

This image shows people attending the event in a workshop, in conversation and writing ideas down.

"Mae'r fframwaith yn system gyfan ac yn ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer atal trais, wedi'i chydgynhyrchu â phlant a phobl ifanc.

Credwn mai dyma'r cyntaf o'i fath yn y DU. Yn y fframwaith, rydym yn cyflwyno 9 strategaeth ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc, yn amrywio o'r blynyddoedd cynnar, hyd at gymunedau diogel, mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, a newid normau cymdeithasol niweidiol. Daw'r fframwaith i ben gyda gwybodaeth am greu amgylchedd galluogi ar gyfer atal, a theori newid.

Yn bwysicaf oll, mae'n gosod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, wedi'i datblygu gan blant a phobl ifanc, a feiddiai ddychmygu Cymru Heb Drais."

Lara Snowdon, Arweinydd y Rhaglen Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
This image shows presenters talking through their slides and reading aloud children and young people's views on a Wales without violence.

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag Uned Atal Trais Cymru i ymchwilio i'r rolau y gall plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ymgymryd â nhw er mwyn rhoi diwedd i drais ledled y wlad. Mae'r berthynas hon wedi bod yn ddefnyddiol, yn gadarnhaol ac yn rymusol, gan roi'r cyfle i bobl ifanc o fewn Peer Action Collective greu mudiad a fydd yn gadael gwaddol i genedlaethau'r dyfodol.

"Er mwyn datblygu Fframwaith Cymru Heb Drais, gwnaethom siarad â channoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru am eu profiadau o drais, a'u syniadau ar sut i roi diwedd arno. Ar y cyfan, clywsom fod plant a phobl ifanc eisiau teimlo'n ddiogel i fod yn nhw eu hunain.

This Framework aims to be a guide to violence prevention based on the experiences of the children and young people affected. As you read through it, I hope you will see, as we have seen through many interviews, events and conversations, that there is hope for a future violence-free Wales and ambition from children, young people and professionals alike to make this happen."

Stephanie McArdle, Cydlynydd Peer Action Collective Cymru