Mae Uned Atal Trais Cymru yn gweithredu ar sail brwdfrydedd ar y cyd rhwng y sector cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru i atal trais. Mae llawer o'n haelodau yn dod o sefydliadau sydd wedi'u nodi'n ymatebwyr allweddol i'r pandemig, sydd o dan bwysau sylweddol ond sydd yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn pobl a chymunedau Cymru. Rydym yma i gefnogi'r sefydliadau hyn wrth iddynt ymateb, gan ddarparu gwybodaeth, capasiti a gallu yn ystod yr adegau anodd hyn.
Mae ein hymateb yn cynnwys pedwar cam allweddol:
Dadansoddi data
Drwy ddwyn data partneriaid ynghyd drwy ein system gwyliadwriaeth trais, gallwn ddadansoddi a monitro maint, natur ac effaith trais, a nodi unrhyw dueddiadau, patrymau a mannau penodol lle ceir problemau yn ystod yr argyfwng ac ar ei ôl.
Drwy rannu data a'u dadansoddi gellir sicrhau bod tueddiadau a phatrymau trais yn cael eu cofnodi a'u deall gan bartneriaid; bod camau ataliol ac ymatebion yn cael eu llywio gan y data a gwybodaeth; a bod gwaith dadansoddi yn cael ei wneud ar ôl yr argyfwng er mwyn llywio'r ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol, a datblygu'r sail dystiolaeth ryngwladol.
Gohebiaeth strategol
Fel tîm amlasiantaethol, cydweithredol, gallwn gefnogi partneriaid i sicrhau bod gohebiaeth strategol yn unedig ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Byddwn yn sicrhau bod trais yn cael ei ystyried fel rhan o gynlluniau cyfathrebu partneriaid, bod camau ataliol yn rhan o ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata cymdeithasol, a bod yr ymatebion hyn yn cael eu llywio gan dystiolaeth.
Cefnogi gwasanaethau rheng flaen
Gall gwasanaethau rheng flaen fod yn profi newid mewn galw nas gwelwyd o'r blaen yn ystod y cyfnod hwn. Rydym mewn sefyllfa unigryw i wrando ar ein partneriaid amlasiantaethol a darparu cymorth ac eiriolaeth i gau unrhyw fylchau, lle y bo'n briodol. Ar gyfer gwasanaethau a gaiff eu comisiynu gan Uned Atal Trais Cymru, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod gwaith ymyrryd yn digwydd ar-lein neu dros y ffôn, lle y bo modd. Mae ein darparwyr yn gweithio'n ddiwyd i atal trais a diogelu'r rhai sydd mewn perygl, ond maent hefyd yn edrych i'r dyfodol er mwyn sicrhau bod rhaglenni yn gallu ailafael ynddi pan fydd y cyfyngiadau presennol yn cael eu llacio.
Gwybodaeth, canllawiau a thystiolaeth
Bydd Uned Atal Trais Cymru yn ganolfan gwybodaeth o ran canllawiau, gwybodaeth a thystiolaeth sy'n ymwneud ag atal trais, a bydd yn mynd ati i ddatblygu cyfleoedd i rannu negeseuon ymhellach, a dyrannu adnoddau ymhlith partneriaid dros yr wythnosau i ddod.
The Journal of Community Safety and Well-being has published a paper by the Wales Violence Prevention Unit on how we have implemented a public health approach during the COVID-19 pandemic. You can read the article here.