Neges gan Jon Drake, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru:
Mae'n bleser gennyf rannu dau adroddiad â chi a gomisiynwyd gan Uned Atal Trais Cymru ac a gwblhawyd gan CASCADE, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant.
Mae'r adroddiadau wedi casglu gwybodaeth ynghylch sut i roi ymarfer cynhyrchiol effeithiol ar y cyd ar waith ym maes gwasanaethau cyhoeddus, ac yn darparu trosolwg o'r dystiolaeth sy'n gysylltiedig â'r dulliau gweithredu gorau ar gyfer lleihau nifer yr achosion o drais ymhlith pobl ifanc.
Gyda'i gilydd, bydd y dystiolaeth hon yn ein cefnogi ni a'n partneriaid i ddatblygu proffil problemau trais gan bobl ifanc, ac yn mynd i'r afael â'r ffyrdd mwyaf effeithiol o'u hatal.
Bydd yr adroddiadau hyn yn amhrisiadwy o ran sicrhau gweithgarwch effeithiol wrth atal trais yng Nghymru a thu hwnt. Yn wir, mae Uned Atal Trais Cymru eisoes yn defnyddio'r canfyddiadau i lywio ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod, 21/22.
Mae'r adroddiad ar roi ymarfer cynhyrchiol ar y cyd ar waith yn cydnabod, er bod diffyg tystiolaeth ar effeithiolrwydd ymarfer cynhyrchiol ar y cyd, mae'r llenyddiaeth sydd ar gael yn tynnu sylw at fanteision uniongyrchol ac anuniongyrchol ymgysylltu â phlant. O ran gwasanaethau cyhoeddus, roedd y canfyddiadau yn datgelu bod ymarfer cynhyrchiol ar y cyd yn helpu gyda'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc. Gall hyn arwain at wasanaethau gwell a mwy effeithlon sydd wedi'u staffio gan ymarferwyr sy'n meddu ar fwy o wybodaeth a dealltwriaeth o fywydau ac anghenion plant.
Tynnodd yr ymarfer mapio a sganio gorwelion systematig sylw at y cyfoeth o astudiaethau, adroddiadau a phapurau sydd ar gael mewn perthynas â thrais gan bobl ifanc. Mae'r adroddiad wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen mabwysiadu dull gweithredu datblygiadol o fynd i'r afael ag atal trais gan bobl ifanc sy'n cynnwys gweithgareddau atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol ar lefel wedi'i thargedu a lefel gyffredinol. Mae hyn yn dangos bod angen mabwysiadu dull amlasiantaethol a chydweithredol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd cywir ar yr adeg gywir, naill ai er mwyn eu dargyfeirio'n ddiogel neu eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithredoedd treisgar.
Hoffwn ddiolch i Nina Maxwell a thîm CASCADE am ddarparu tystiolaeth werthfawr o drais gan bobl ifanc yng Nghymru, a'r mesurau y gallwn eu rhoi ar waith er mwyn atal hyn. Rhannwch yr adroddiadau hyn yn eang â'r cydweithwyr, ac mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Darllenwch yr adroddiadau: 'Gweithredu ymarfer cydgynhyrchiol gyda gwasanaethau cyhoeddus: Negeseuon o'r ymchwil'
Darllenwch yr adroddiadau: 'Arfer da o ran atal trais ymhlith pobl ifanc: Adolygiad mapio a sganio'r gorwel'