Yn ôl ymchwil newydd gan Uned Atal Trais Cymru a Phrifysgol Caerwysg, mae pobl yn fwy tebygol o gymryd camau yn erbyn cam-drin domestig ac arwyddion achosion o'r fath os byddant yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â'u cymuned.
Aeth yr ymchwil, a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ati i archwilio profiadau ac ymddygiadau'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod achosion o gam-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19, a hynny er mwyn helpu i lywio polisïau a rhaglenni hyfforddiant ar ymyrryd i'r rhai sy'n bresennol, yng ngoleuni'r newidiadau i fywydau pob dydd a achoswyd gan gyfyngiadau COVID-19.
Holodd yr ymchwil dros 180 o oedolion sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru. Nododd bron i 90% o'r cyfranogwyr eu bod yn teimlo'n agosach at eu cymunedau yn ystod y pandemig, a nododd 45% eu bod yn teimlo bod y newidiadau yn eu harferion, megis gweithio gartref, o ganlyniad i'r pandemig, wedi eu galluogi i ddod yn ymwybodol o gam-drin domestig neu arwyddion o achosion o'r fath. Gwnaeth y mwyafrif o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod am helpu aelodau o'u cymuned nodi hefyd y gallent gamu i mewn a chymryd camau yn erbyn camdriniaeth neu arwyddion o achosion o'r fath. Roedd hyn oherwydd eu bod yn cydnabod sefyllfaoedd problematig ond hefyd oherwydd eu bod yn gwybod beth i wneud i helpu.
Mae'r ymchwil yn tynnu sylw hefyd at bwysigrwydd addysg ar sut beth yw trais domestig ac arwyddion o achosion o'r fath a hyfforddiant i bobl deimlo'n hyderus i gymryd camau pan fyddant yn dyst i hyn. O blith ymatebwyr yr arolwg, nododd pawb a ddywedodd eu bod wedi cymryd camau yn erbyn y gamdriniaeth a welsant, eu bod hefyd yn teimlo bod ganddynt y sgiliau cywir i wybod beth i'w ddweud neu ei wneud.
"Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer ohonom, ac i rai pobl, os nad yw'r cartref yn lle diogel, bu'n gyfnod brawychus a hyd yn oed yn beryglus weithiau.
"Er gwaetha'r pwysau a'r newid digroeso y mae pob un ohonom wedi bod trwyddo yn ystod COVID-19, mae'r ymchwil yn dangos bod pobl yng Nghymru wedi bod yn cadw llygad ar ei gilydd. Rhaid i'r cartref fod yn lle diogel i bawb, a hyd nes y gallwn sicrhau hynny, mae gwybod y gall cymdogion, ffrindiau a chydweithwyr gamu i mewn a sefyll i fyny dros y rhai sy'n cael eu cam-drin a'u helpu i fanteisio ar gymorth yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i ni.
"Mae atal cam-drin domestig yn fusnes i bawb, ac mae'n bwysig ein bod yn defnyddio'r ymchwil hon i ddeall yn well yr heriau i'r rhai sy'n bresennol yn ystod achosion o gam-drin a'r hyn sy'n eu cymell er mwyn i ni allu cefnogi pawb i gydnabod cam-drin domestig ac arwyddion o achosion o'r fath ac ymateb yn ddiogel iddynt."
Dywedodd Jon Drake, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru
Mae cymorth ar gael i bobl sy'n cael eu cam-drin. Os bydd angen help ar rywun ar unwaith, gellir deialu 999 a bydd yr heddlu yn ymateb. Os bydd angen help distaw ar rywun, gellir deialu 999 ac yna deialu 55 pan fydd y sawl sy'n ateb yr alwad yn dweud hynny. Os nad yw'n achos brys, gellir rhoi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 101.
Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn hefyd ar gael bob awr o'r dydd a'r nos i bobl sydd wedi bod yn destun cam-drin domestig neu sy'n destun cam-drin domestig ar hyn o bryd neu i bobl sy'n poeni am ffrind neu berthynas.
Llinell Gymorth:0808 80 10 800
Tecstiwch:078600 77333
Gwasanaeth gwe-sgwrs: llyw.cymru/byw-heb-ofn
Mwy o Wybodaeth: llyw.cymru/byw-heb-ofn
Mae Llinell Ffôn Respect yn cynnig help i gyflawnwyr cam-drin domestig sydd am newid. Mae'r llinell gymorth gyfrinachol ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am ac 8pm:
Llinell Gymorth: 0808 8024040
Mwy o wybodaeth: respectphoneline.org.uk