Mae ymchwil mynediad agored newydd yn taflu goleuni ar rôl ryngwladol iechyd y cyhoedd wrth atal trais ac yn nodi cyfleoedd i'w atal.
Roedd yr arolygiad cwmpasu systematig, a gyhoeddwyd yn y Journal of Community Safety and Wellbeing, yn brosiect ymchwil cydweithredol rhwng dwy o Ganolfannau Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r olaf yn un o aelodau sefydlol Uned Atal Trais Cymru.
Mae'r erthygl yn archwilio'r dulliau cyffredin o atal trais yn ogystal â bylchau mewn tystiolaeth a phrosesau gweithredu.
Dywedodd Lara Snowdon, Awdur Arweiniol ac Arweinydd y Rhaglen Atal Trais yng Nghanolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddiad ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Atal Trais Cymru:
“Roedd deall yr amrywiaeth o fframweithiau atal trais sy'n bodoli'n rhyngwladol yn rhan bwysig o'n gwaith datblygu ar gyfer Fframwaith Cymru Heb Drais. Mae'n wych bod y gwaith ymchwil hwn bellach wedi'i gyhoeddi, a'n bod yn gallu ei rannu â phartneriaid i gefnogi dealltwriaeth o rôl iechyd y cyhoedd wrth atal trais, yn enwedig o ran dulliau atal sylfaenol ac ymyrryd yn gynnar.”