Mae adroddiad newydd yn ystyried effaith trais yng Nghymru wedi datgelu bod digwyddiadau treisgar yn costio bron £50 miliwn i'r GIG bob blwyddyn.
Yr adroddiad hwn yw'r asesiad cenedlaethol diweddaraf o gostau trais i'r system gofal iechyd a chafodd ei gomisiynu gan Uned Atal Trais Cymru er mwyn helpu i fuddsoddi'n well mewn cynlluniau atal trais.
Mae ffigurau newydd yn yr adroddiad yn dangos bod ymateb i ddigwyddiadau treisgar, gan gynnwys ymosodiadau corfforol, trais partner agos, troseddau'n ymwneud â chyllyll a hunan-niweidio, ynghyd â'r trallod personol y mae teuluoedd a chymunedau yn ei brofi, wedi costio £46.6 miliwn i'r system gofal iechyd yng Nghymru yn ystod 2018/2019.
Mae'r astudiaeth yn amcangyfrif bod £158.8 miliwn ychwanegol wedi cael ei wario ar drin y cyflyrau iechyd hirdymor a gysylltir yn gyffredin â chanlyniadau trais.
Mae'r costau byrdymor sy'n gysylltiedig ag anafiadau corfforol o ganlyniad i ymosodiadau a chamdriniaeth yn £13.9 miliwn bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys, galwadau ambiwlans a derbyniadau ysbyty, gyda £22.2 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar driniaeth ar gyfer effaith emosiynol trais, fel cwnsela ar gyfer iselder a gorbryder.
Canfu'r ymchwil hefyd fod £158.8 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn yng Nghymru ar driniaeth ar gyfer iselder a gorbryder, y defnydd o alcohol a’r defnydd o gyffuriau gwaharddedig. Mae ymchwil gynyddol wedi nodi bod cyfran o'r pryderon iechyd hyn yn deillio o bosibl o brofiadau'r unigolyn o drais ac esgeulustod yn ystod plentyndod, sy'n nodi bod trais yn cyfrannu at y gost sylweddol hon.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Yn gyntaf, mae'n argymell y dylid hwyluso system well i rannu gwybodaeth rhwng sefydliadau er mwyn deall natur a digwyddiadau trais ledled Cymru. Mae hefyd yn argymell y dylid buddsoddi mwy mewn rhaglenni cymunedol sy'n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar er mwyn atal trais, a mentrau i gefnogi'r gwaith o nodi arwyddion trais yn gynnar er mwyn lleihau baich ariannol trais ar y system gofal iechyd.
“Gall effaith emosiynol trais a'r effaith ar iechyd y bobl sy'n ei ddioddef fod yn llawer mwy difrifol na'r baich economaidd y mae'n ei roi ar wasanaethau. Fodd bynnag, mae pennu cost ariannol trais i'n system gofal iechyd yn ein helpu ni a'n partneriaid i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut i fuddsoddi cyllid ac adnoddau hanfodol er mwyn atal trais.
“Mae argymhellion yr adroddiad yn dangos sut rydym ni yng Nghymru yn sicr yn mynd i'r cyfeiriad cywir er mwyn atal trais a'r trallod y mae'n ei achosi. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys yn y sectorau iechyd, plismona a chyfiawnder troseddol, i nodi mesurau cost-effeithiol a fydd yn atal trais nawr ac yn amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol.”
Jon Drake, Cyfarwyddwr, Uned Atal Trais Cymru
“Mae ein hymchwil yn dangos bod trais yn rhoi baich economaidd sylweddol ar y system gofal iechyd yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae modd atal trais, ac mae ein hadroddiad hefyd yn nodi tystiolaeth sy'n dangos y gall buddsoddi mewn rhaglenni yn y gymuned ac ymyrryd yn gynnar er mwyn atal trais fod yn ffordd gost-effeithiol o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus.”
Lisa Jones, Darllenydd Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl, a arweiniodd yr ymchwil