Jump to content

Ymchwil wreiddiol yr Uned Atal Trais yn cynnig cliwiau ar gyfer atal trais mewn argyfyngau iechyd cyhoeddus

Mae canfyddiadau astudiaeth unigryw, a gynhaliwyd yn ystod cyfyngiadau clo cenedlaethol COVID-19 yng Nghymru yn darparu argymhellion ar gyfer sicrhau bod pobl wedi'u cymhwyso'n well ar gyfer adnabod achosion o drais a cham-drin domestig a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Pobl yn siarad

Yr Astudiaeth

Cyhoeddwyd ymchwil 'Profiadau'r Rhai a oedd yn Bresennol yn ystod achosion o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod Pandemig COVID-19' Uned Cymru Heb Drais yn ddiweddar yng Nghyfnodolyn Trais ar Sail Rhywedd. Mae'r ymchwil, a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac a arweiniwyd gan dîm amlddisgyblaethol o Uned Cymru Heb Drais, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Durham a Phrifysgol Lerpwl John Moores yn adrodd ar brofiadau 186 o bobl a oedd yn bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig a oedd yn byw neu'n gweithio yng Nghymru ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth 2020. Mae'r astudiaeth yn nodi er bod yr achosion o drais a cham-drin domestig wedi gwaethygu oherwydd cyfyngiadau'r pandemig, gwnaeth hefyd gynyddu'r cyfleoedd i'r rhai a oedd yn bresennol ddod yn ymwybodol o achosion o drais a cham-drin domestig a gweithredu i gefnogi dioddefwyr.

Canfyddiadau'r Astudiaeth

Roedd yr ymchwil, a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein a chyfweliadau, yn nodi bod y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr wedi adrodd iddynt fod yn dyst i reolaeth drwy orfodaeth neu wedi cael pryderon amdano (90%), gyda 87% o'r ymatebwyr hynny yn adrodd eu bod wedi gweithredu mewn ymateb i fod yn dyst i'r ymddygiad hwn. Mae'r canfyddiad hwn yn dangos er bod troseddoli rheolaeth drwy orfodaeth yn eithaf diweddar yng Nghymru a Lloegr, roedd y rhai a gymerodd rhan yn yr astudiaeth yn gyfarwydd â'r ymddygiad ac yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu i'w atal i raddau helaeth.

Ar y cyfan, canfu'r astudiaeth bod y mwyafrif o'r bobl a gymerodd rhan yn yr astudiaeth a oedd wedi bod yn dyst i achosion o drais a cham-drin domestig neu ei arwyddion wedi gweithredu, gyda'r rhan fwyaf o'r bobl hyn yn cynnig cefnogaeth i'r dioddefwr. Roedd yr ymatebion a gafwyd gan y rhai a oedd yn bresennol a gwblhaodd hyfforddiant ar achosion o drais a cham-drin domestig yn y pum mlynedd diwethaf yn fwy tebygol o weithredu yn erbyn achosion o drais a cham-drin domestig a chefnogi'r dioddefwr. Roedd hyn yn bennaf am eu bod yn teimlo eu bod yn meddu ar y sgiliau cywir a'r hyder i allu gweithredu. I'r gwrthwyneb, dywedodd y rhai a oedd yn bresennol na wnaethant weithredu ar ôl bod yn dyst i achosion o drais a cham-drin domestig eu bod yn teimlo nad oeddent yn meddu ar y sgiliau gofynnol i allu gwneud hynny. Mae'r astudiaeth yn awgrymu bod cael hyfforddiant ar achosion o drais a cham-drin domestig yn flaenorol yn chwarae rôl bwysig o ran p'un a oedd unigolyn a oedd yn bresennol yn teimlo eu bod yn gallu ymyrryd a chefnogi'r dioddefwr.

Dangosodd yr astudiaeth y ffordd y gellid mapio cymhelliant y rhai sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn erbyn damcaniaeth newid y rhai a oedd yn bresennol - y rhai a oedd yn bresennol a oedd wedi gweithredu yn erbyn achosion o drais a cham-drin oedd y rhai a gafodd y cyfle i sylwi ar y digwyddiad, cydnabod ei fod yn broblemus, teimlo cyfrifoldeb i weithredu, ac yn bwysicach fyth, meddu ar y sgiliau cywir i weithredu. Adroddodd y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn bresennol fod bod yn dyst i achosion o drais a cham-drin domestig neu bryderon am achosion o drais a cham-drin domestig yn ystod y pandemig wedi effeithio arnynt yn negyddol yn emosiynol, yn gymdeithasol, yn gorfforol ac yn ariannol. Cefnogir y canfyddiadau hyn ymhellach gan dri chwarter o ymatebwyr yr arolwg, sy'n nodi y byddai cael hyfforddiant i'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin yn ddefnyddiol, gan dynnu at sylw at y ffaith bod gwybod sut i ymateb yn hanfodol er mwyn gweithredu mewn ffordd ddiogel. Gall hyfforddiant i'r rhai a oedd yn bresennol hefyd helpu i liniaru’r effaith negyddol ar y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg.

Pobl yn siarad

"Roedd pandemig COVID-19 yn amgylchiadau unigryw lle gwaethygwyd trais a cham-drin domestig, ond cynyddodd y cyfleoedd i'r rhai a oedd yn bresennol chwarae rôl hanfodol mewn sylwi ar achosion o drais a cham-drin domestig a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu o'r pandemig ac o gyfyngiadau cysylltiedig er mwyn atal trais yn well mewn argyfyngau iechyd cyhoeddus eraill.

Mae'r canlyniadau o'r astudiaeth hon yn ategu'r angen i gael hyfforddiant cymunedol i'r rhai a oedd yn bresennol. Dangosodd ymatebwyr y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth er bod llawer yn gallu sylwi ar arwyddion trais a cham-drin domestig a theimlo'n gyfrifol i weithredu, nad oedd pawb yn gallu gwneud hynny. Ar y cyfan, effeithiodd profiadau'r ymatebwyr yn negyddol arnynt – gall hyfforddiant i'r rhai a oedd yn bresennol liniaru'r effaith negyddol ar lesiant a darparu'r wybodaeth, sgiliau a'r hyder i weithredu pan fyddant yn dod yn ymwybodol o achos o drais a cham-drin domestig; yn ystod argyfyngau iechyd cyhoeddus ac yn eu bywydau pob dydd."

Dr Alex Walker, Ymchwildydd Arweiniol

Argymhellion yr astudiaeth

Mae'r ymchwil yn darparu safbwynt unigryw ar achosion o drais a cham-drinn domestig yn ystod pandemig byd-eang, ac felly'n darparu tystiolaeth bwysig newydd a all gyfrannu at atal trais a cham-drin domestig yn ystod argyfyngau iechyd cyhoeddus.

Mae'r astudiaeth yn argymell datblygu rhaglenni hyfforddiant ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus i wylwyr sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u llywio'n ddamcaniaethol, sy'n cynnwys gwybodaeth am gymorth i wylwyr, er mwyn cymhwyso'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig i gydnabod y ffordd o gymhwyso'r rhai oedd yn bresennol i adnabod achosion o drais a cham-drin domestig a chefnogi'r rhai yr effeithwyd arnynt. Gall meddu ar y sgiliau angenrheidiol hyn liniaru'r effeithiau negyddol y mae'r rhai a oedd yn bresennol yn eu hwynebu.

O ran argyfyngau iechyd cyhoeddus, mae'r astudiaeth yn argymell y dylai'r rhaglenni hyfforddant a'r ymgyrchoedd gynnwys negseuon penodol sy'n gyson ag unrhyw ganllawiau neu gyfyngiadau iechyd ychwanegol, oherwydd gall hyn liniaru'r effaith ar lesiant y rhai a oedd yn bresennol ymhellach.

Mae'r erthygl gyfan hon ar gael i bawb yng Nghyfnodolyn Trais ar Sail Rhywedd. Darllenwch yr erthygl drwy glicio yma.