“Fe wnes i ddod yn ymchwilydd cymheiriaid gan nad oeddwn i'n gweld digon o bobl ifanc yn cael cyfleoedd i gael dylanwad Dwi'n teimlo nad oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar safbwyntiau pobl ifanc pan fyddan nhw'n sôn wrth weithwyr proffesiynol am eu profiadau.”
Muna
“Dwi'n rhan o grŵp i bobl ifanc LHDTC+ o'r enw GWIR ac roedd pennaeth y grŵp ar y pryd yn gwybod bod diddordeb gen i mewn gweithredu cymdeithasol a sicrhau newid i bobl ifanc. Dywedodd wrtha i am ymchwilwyr cymheiriaid PAC a dyma fi!”
Tesni
“Ymunais â'r tîm er mwyn cael cyfle i rannu fy mhrofiadau a sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed.”-
Anastasiia
Mae Muna (18), Tesni (17) ac Anastasiia (20) yn ymchwilwyr cymheiriaid PAC Cymru. Mae PAC Cymru, a ariennir gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid, yn rhwydwaith o bobl ifanc sy'n benderfynol o greu newid cadarnhaol yn eu cymunedau drwy gynnal gwaith ymchwil arloesol a chymryd camau rhagweithiol i ymdrin â materion sy'n gysylltiedig â thrais ymhlith plant a phobl ifanc. Mae ymchwilwyr cymheiriaid PAC wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid amlasiantaethol amrywiol fel yr Heddlu, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd (CASCADE) a'r Uned Atal Trais ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys deall achosion trais ymhlith plant a phobl ifanc ac ystyried rôl oedolion yr ymddiriedir ynddynt.
Mae'r grŵp hwn o ymchwilwyr ifanc yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau y caiff lleisiau plant a phobl ifanc eu clywed ac mae eu gwaith yn cau'r bwlch rhwng plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
“Er mai pobl ifanc ydyn ni hefyd, dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth mae pob un person ifanc yn ei wynebu. Rydyn ni'n cwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd ethnig a gall fod profiadau gwahanol gan bob un ohonyn nhw, felly rydyn ni bob amser yn dysgu pethau newydd gan y bobl ifanc rydyn ni'n siarad â nhw. Rydyn ni bob amser yn dysgu ac yn ehangu ein safbwyntiau,” dywedodd Muna.
Mae'r tîm yn ymwybodol bod angen creu man diogel a chynhwysol er mwyn i bobl ifanc deimlo'n gyfforddus wrth rannu eu profiadau a siarad. Er mwyn sicrhau eu bod yn creu man diogel, maent yn cynnig cyfarfod â nhw mewn lleoedd y maent yn teimlo'n gyfforddus ynddynt, yn addasu cwestiynau ac yn sicrhau bod cymorth ar gael os bydd ei angen. Cafwyd adborth cadarnhaol gan rieni a gweithwyr, a chan y bobl ifanc eu hunain, am y dulliau a ddefnyddir i gyfathrebu ac i gysylltu â phlant a phobl ifanc. Nododd Tesni fod y ffaith bod yr ymchwilwyr cymheiriaid yn grŵp amrywiol a'u bod yn bobl ifanc eu hunain yn golygu ei bod hi'n haws uniaethu â nhw a bod plant a phobl ifanc yn teimlo'n fwy cyfforddus yn cysylltu â nhw. “Rydyn ni'n gwrando ar bopeth. Pob un peth, waeth pa mor annisgwyl, cynnil neu gwbl benodol – rydyn ni'n gwrando ar eu llais ac yn sicrhau y cânt eu clywed. Dydyn ni ddim yn gweld plant a phobl ifanc fel blychau ticio ar gyfer cwblhau gwaith ymchwil, ond fel pobl â gwahanol brofiadau,” dywedodd Tesni.
Yn ogystal â chreu man diogel i'r bobl ifanc siarad, mae aelodau'r grŵp hefyd yn sicrhau eu bod yn parhau i weithio gyda'r plant a'r bobl ifanc a'u bod yn atgyfnerthu eu bond gyda'r unigolion hynny. “Rydyn ni'n aros mewn cysylltiad â'r bobl ifanc, ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod y gallan nhw gysylltu â ni eto'n ddiweddarach os bydd angen. Rydyn ni'n rhwydweithio â nhw ac yn eu gwahodd i'n digwyddiadau gan ein bod ni hefyd yn cynnal gweithdai a grwpiau ffocws,” dywedodd Anastasiia. Caiff rhai o'r digwyddiadau hyn eu dylanwadu gan eu gwaith ymchwil a'r hyn y maent wedi ei glywed gan y bobl ifanc.
Nododd yr ymchwilwyr cymheiriaid hefyd eu bod yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol, gan sicrhau bod profiadau pobl ifanc yn dylanwadu ar waith polisi ac wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig mewn perthynas â thrais ymhlith plant a phobl ifanc, gan felly helpu i greu Cymru heb drais.