Jump to content

YMCHWIL NEWYDD: Cefnogi Cenhadon a Chynghreiriaid: Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais

Mae gwaith ymchwil hanfodol gan Uned Atal Trais Cymru yn nodi ystyriaethau o ran y ffordd orau o ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais.

"Rydych chi wedi rhoi'r hyder i mi herio'r ffordd y mae bechgyn yn trin merched" Canfyddiadau Allweddol o Brosiectau 'Profi a Dysgu' yng Nghymru - clawr yr adroddiad
Buddsoddi mewn cynghreiriaid a chenhadon – ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais: Adolygiad o Raglenni yng Nghymru- clawr yr adroddiad

Mae trais yn broblem gymdeithasol, ac mae'n aml yn deillio o normau cymdeithasol a stereoteipiau niweidiol sy'n cynnal anghydraddoldeb. Mae'r normau a'r stereoteipiau hyn yn cael effaith andwyol ar bawb, ac mae gan bawb ran i'w chwarae wrth newid y naratif. Fodd bynnag, yn hanesyddol, mae mentrau i atal trais i raddau helaeth wedi esgeuluso'r rôl hanfodol y gall dynion a bechgyn ei chwarae fel cynghreiriaid a chenhadon.

Gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys pawb yn yr ateb, mae Uned Atal Trais Cymru wedi lansio'r ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, mewn partneriaeth â Plan International UK. Mae'r Pecyn Cymorth hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth academaidd ac arbenigedd proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu rhaglenni cynhwysol, hygyrch a diddorol i ddynion a bechgyn.


“Mae'r darn hwn o waith yn ddarn allweddol i'r Uned. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan ddynion a bechgyn i'w chwarae wrth atal trais, fel cynghreiriaid a chenhadon, ac rydym am sicrhau bod ein gwaith yn eu helpu i gyflawni'r rolau hyn. Drwy feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r hyn sy'n gweithio wrth ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais yng Nghymru, gallwn rannu'r gwersi a ddysgwyd er mwyn helpu ymarferwyr i roi ymyriadau ar waith sy'n gweithio i ddynion a bechgyn, a gallwn hefyd ddefnyddio'r dystiolaeth hon i wneud gwaith mireinio pellach ar yr ymyriadau a gomisiynir gennym, fersiynau newydd o'n hymgyrch #DiogelDweud yn y dyfodol a gwaith ymchwil yn y dyfodol ar atal trais”.

Dr Alex Walker, Arweinydd Ymchwil y Pecyn Cymorth, Uned Atal Trais Cymru

"Mae Plan International UK wedi bod yn archwilio sut y gallwn gael bechgyn a dynion ifanc i ryngweithio â dulliau atal Trais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae bechgyn wedi bod yn dweud wrthym am y pwysau a deimlir ganddynt i ymddangos yn 'galed' ac i danysgrifio i normau rhywedd niweidiol. Yn ein prosiect 'State of Girls Rights in the UK 2024' diweddar, cytunodd ychydig dros hanner o'r merched a'r menywod ifanc rhwng 12 ac 21 oed (56%) eu bod wedi cael eu haddysgu ar yr hyn sydd angen iddynt ei wybod am gydberthnasau iach ac am ryw, fel merched a menywod ifanc. Ond eto mae llai nag un o bob pum merch a menyw ifanc (17%) yn teimlo bod bechgyn a dynion yn cael eu haddysgu ar yr hyn y dylai bechgyn ei wybod am gydberthnasau iach a rhyw, sy'n codi'r cwestiwn difyr ynglŷn ag effeithiolrwydd yr addysg a'r broses o ddysgu am y materion hyn.

Gwnaethom gomisiynu'r cynlluniau peilot 'Profi a Dysgu' i archwilio sut y gallwn fynd i'r afael â'r naratifau hyn. Drwy'r gwaith hwn, rydym wedi dod i ddeall bod angen i ni werthfawrogi bod bechgyn a dynion hefyd yn dioddef yr un pwysau a normau cymdeithasol, mae angen i ni ddeall eu gwirioneddau, dod i ddeall yr hyn sy'n bwysig iddynt, a chanfod ffyrdd y gallwn eu cael i ryngweithio â ni, er mwyn rhyngweithio'n effeithiol â bechgyn a dynion ifanc i wneud newid ystyrlon wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ifanc, er mwyn llunio darlun o'r hyn sydd am weithio.

Rydym yn falch o rannu ein canfyddiadau mewn partneriaeth â'r Uned Atal Trais fel y gall eraill ddysgu ohonynt, a gyda'n gilydd gallwn ddechrau annog newid i bob person ifanc."

Anne-Marie Lawrence, Rheolwr Datblygu Cymru, Plan International UK

Fel rhan o'r broses o roi Fframwaith Cymru Heb Drais ar waith, bydd y Pecyn Cymorth yn parhau i ddatblygu er mwyn darparu amrywiaeth o wybodaeth hygyrch er mwyn deall, cefnogi a chynnal asesiad beirniadol o'r rhan y gall rhaglenni sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi dynion a bechgyn ei chwarae wrth atal trais. Ar hyn o bryd, mae'r pecyn cymorth yn cynnwys dau adroddiad a ffeithlun:

  • Ffeithlun sy'n nodi'r ystyriaethau allweddol sy'n deillio o'r ddau adroddiad wrth gynllunio a gweithredu rhaglenni i ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais.

Cliciwch yma i edrych ar y Pecyn Cymorth: Adnoddau - Cymru Heb Drais