Jump to content

Uned Atal Trais Archif Adrodd

Archif o'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd gan Uned Atal Trais Cymru.

Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho'r adroddiadau.

Atal Aflonyddu Rhywiol yn Economi’r Nos - #DiogelIDdweud Gam Dau Adroddiad Gwerthuso

Atal Aflonyddu Rhywiol yn Economi’r Nos - #DiogelIDdweud Gam Dau Adroddiad Gwerthuso

Mae #DiogelDweud yn ymgyrch atal achosion o aflonyddu rhywiol, sy'n ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu'n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu'r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.

Gan adeiladu ar werthusiad o Gam Un #DiogelDweud, cafodd Cam Dau ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, gydag arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o gronfa Safety of Women at Night y Swyddfa Gartref .

Mae'r gwerthusiad hwn wedi defnyddio canfyddiadau o'r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau'r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch.

Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc

Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc

Mae Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc yn dwyn ynghyd y cyfraniadau a wnaed gan blant a phobl ifanc drwy'r ymgynghoriad ar gyfer Fframwaith Cymru Heb Drais.

Mae'r adroddiad yn darparu cipolwg anghyffredin ar y materion sy'n cael yr effaith fwyaf ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â'u blaenoriaethau er mwyn atal trais.

Mae'r adroddiad ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Dylid ei ddarllen ar y cyd â Fframwaith Cymru Heb Drais pan fyddwch yn cynllunio gweithgarwch atal trais.

Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Er mwyn atal trais ymhlith plant a phobl ifanc mae angen camau ar y cyd a chydlynol.

Mae’r Fframwaith Cymru Heb Drais yn amlinellu’r prif elfennau sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus, system gyfan.

Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Asesiadau o Anghenion Strategol y Ddyletswydd Trais Difrifol yng Nghymru

Asesiadau o Anghenion Strategol y Ddyletswydd Trais Difrifol yng Nghymru

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi datblygu'r canllawiau hyn, sy'n benodol i Gymru, er mwyn helpu partneriaid amlasiantaethol i gwblhau asesiadau o anghenion strategol i ddeall sut mae trais yn effeithio ar eu cymunedau, fel rhan o'r Ddyletswydd Trais Difrifol.

Gwerthusiad Gwasanaeth o Gyflwyno Tîm Atal Trais yn yr Ysbyty, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a'i Roi ar Waith

Gwerthusiad Gwasanaeth o Gyflwyno Tîm Atal Trais yn yr Ysbyty, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a'i Roi ar Waith

Mae'r gwerthusiad hwn, a oedd yn cynnwys cyfweliadau â staff clinigol a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm Tîm Atal Trais , yn ystyried y ffordd y cafodd y gwasanaeth yn yr Adran Achosion Brys ei ddatblygu a'i roi ar waith, a natur a lefel y cymorth a ddarperir i gleifion gydag anafiadau cysylltiedig â thrais.

Gwerthusiad Cam Un #DiogelIDdweud

Gwerthusiad Cam Un #DiogelIDdweud

Datblygodd Uned Atal Trais Cymru ymgyrch atal trais, #DiogelDweud, mewn cydweithrediad ag Ymgyrch Good Night Out a gyda chefnogaeth gan Cymorth i Ferched Cymru. Nod yr ymgyrch oedd atal achosion o aflonyddu rhywiol a thrais yn yr economi liw nos wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio yng Nghymru.

Mae'r gwerthusiad hwn yn adrodd ar Gam Un yr ymgyrch, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021. Dangosodd y gwerthusiad, ar y cyfan, bod yr ymgyrch wedi bodloni ei bedwar amcan drwy annog tystion i ymddwyn mewn modd cymdeithasol gadarnhaol wrth ymateb i aflonyddu rhywiol yn yr economi liw nos.

Uned Atal Trais Cymru_Adroddiad - Gwerthuso Systemau Cyfan 2020-21

Uned Atal Trais Cymru_Adroddiad - Gwerthuso Systemau Cyfan 2020-21

Ar gyfer 2020/21, gwnaethom gomisiynu Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl i werthuso dull iechyd cyhoeddus system gyfan yr Uned o atal trais, er mwyn ein cefnogi ni i adeiladu ar ganfyddiadau ac argymhellion Gwerthusiad Blwyddyn Un.

Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd â gwerthusiad o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru yn ein cefnogi i ddatblygu ein dull gweithredu iechyd cyhoeddus system gyfan ymhellach i gyflawni newid gwirioneddol a pharhaol i bobl Cymru.

Profiadau Rhai sy'n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19

Profiadau Rhai sy'n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19

Archwiliodd yr ymchwil brofiadau ac ymddygiadau'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod achosion cam-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19, i helpu i lywio polisïau a rhaglenni hyfforddi ar ymyrraeth i'r rhai sy'n bresennol, yng ngoleuni'r newidiadau i fywydau beunyddiol a achosir gan gyfyngiadau COVID -19.

Roedd yr astudiaeth hon, a gyflawnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerwysg, ac a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys arolwg a chyfweliadau ag aelodau'r cyhoedd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac ymddygiadau'r rhai a fu'n bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig yn ystod cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol. Er y cafodd yr astudiaeth ei gweithredu ar raddfa fach, dyma'r astudiaeth gyntaf o'i bath sy'n rhoi cipolwg newydd ar brofiadau'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod pandemig byd-eang.

Beth sy'n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Asesiad Systematig o'r Dystiolaeth

Beth sy'n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Asesiad Systematig o'r Dystiolaeth

Mae'r asesiad systematig hwn o dystiolaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ymyriadau sylfaenol ac eilaidd effeithiol i atal trais o'r fath, er mwyn llywio'r broses o fabwysiadu polisïau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r adroddiad yn nodi amrywiaeth o ddulliau gweithredu effeithiol sydd wedi'u cynllunio i atal trais o'r fath ar lefel yr unigolyn, y berthynas, y gymuned a'r gymdeithas ac yng nghyd-destun addysg, iechyd, bywyd nos ac yn y gymuned

Uned Atal Trais Cymru Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Uned Atal Trais Cymru Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol sy'n nodi bod dros 500 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn yr ymyriadau a gomisiynwyd ganddi yn 2020-21.

Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr ymyriadau a gomisiynwyd gan yr Uned, prosiectau ymchwil a gweithgarwch gweithredol yn ystod ei blwyddyn lawn gyntaf yn gweithredu. Mae hefyd yn edrych tua'r dyfodol, gan nodi'r hyn y bydd yr Uned yn canolbwyntio arno y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Uned Atal Trais Cymru Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Gwerthusiad o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru

Gwerthusiad o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi'r gwerthusiad annibynnol o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru.

Sefydlwyd System Gwyliadwriaeth Trais Cymru yn 2014, gan ganolbwyntio ar Dde Cymru i ddechrau, gyda'r nod o gefnogi'r gwaith o atal trais drwy ddatblygu system gwyliadwriaeth i goladu, dadansoddi a rhannu data rhwng gwahanol sectorau.

Mae'r Uned wedi bod yn gyfrifol am y System ers 2019, a'r nod yw ei hymestyn ledled Cymru. Dyma'r gwerthusiad cyntaf o System Gwyliadwriaeth Trais Cymru, ac fe'i lluniwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl. Bydd yn helpu'r Uned i ddeall anghenion ein partneriaid yn well, yn ogystal â rhwystrau presennol/posibl a ffactorau hwyluso wrth i ni barhau i ddatblygu'r system.

Asesiad o Anghenion Iechyd: Effaith COVID-19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Asesiad o Anghenion Iechyd: Effaith COVID-19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Mae'r Asesiad Anghenion Iechyd hwn yn adeiladu ar yr adroddiad interim 'Deall Effaith COVID-19 ar Drais a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod'

Mae'r adroddiad yn nodi ystyriaethau allweddol i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys yr angen am ymyrraeth gynnar, gwybodaeth hygyrch a chyllid cynaliadwy parhaus ar gyfer gwasanaethau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc wrth i Gymru ailagor.

Pecyn Cymorth Gwerthuso

Pecyn Cymorth Gwerthuso

Mewn cydweithrediad â Sefydliad Iechyd Cyhoeddus (PHI) Prifysgol John Moores Lerpwl (LJMU), rydym wedi datblygu pecyn cymorth gwerthuso sy'n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i ddarparwyr gwasanaeth werthuso rhaglenni ac ymyriadau sydd wedi'u targedu at atal trais.

Mae'r pecyn cymorth wedi'i gynllunio i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Effaith COVID-19 ar Blant a Phobl Ifanc

Effaith COVID-19 ar Blant a Phobl Ifanc

Cyhoeddwyd yr adroddiad interim hwn ar 'Deall Effaith COVID-19 ar Drais a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod', a wynebir gan Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru ', mewn partneriaeth â'r Ganolfan Gymorth Profiadau Niweidiol i Blentyndod.

Mae'r adroddiad yn myfyrio ar ddata a dadansoddiad a gynhaliwyd wrth fonitro trais yn barhaus yn ystod COVID-19, ac yn adolygu llenyddiaeth i ddeall sut mae ffactorau ehangach wedi effeithio ar iechyd plant a phobl ifanc yn sgil COVID-19. Er nad wyf yn credu y bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn yn synnu sawl un ohonom, bydd yn ein hatgoffa bod angen i ni gydweithio i ymyrryd yn gynnar ac amddiffyn plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Uned Atal Trais Cymru Gwerthusiad Blwyddyn Un

Uned Atal Trais Cymru Gwerthusiad Blwyddyn Un

Er mwyn llywio datblygiad parhaus Uned Atal Trais Cymru, yn 2020 gwnaethom gomisiynu Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moore Lerpwl, i gynnal ein Gwerthusiad cyntaf.

Dangosodd y gwerthusiad fod Uned Atal Trais Cymru wedi dechrau creu newidiadau ar lefel system mewn perthynas ag atal trais, gan annog sefydliadau i ganolbwyntio ar atal trais fel mater yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn dangos bod ein gwaith ni a'n partneriaid yn dechrau trawsnewid y dirwedd atal trais yng Nghymru.

Costau Trais i'r System Gofal Iechyd yng Nghymru

Costau Trais i'r System Gofal Iechyd yng Nghymru

Mae'r ymchwil hon, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Sefydliad Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl yn archwilio costau trais i'r system gofal iechyd yng Nghymru.

Mae ffigurau newydd yn yr adroddiad yn dangos, ochr yn ochr â’r trallod personol a brofwyd gan deuluoedd a chymunedau, bod ymateb i ddigwyddiadau treisgar, gan gynnwys ymosodiadau corfforol, trais partner agos-atoch, troseddau cyllyll a hunan-niweidio, wedi costio £ 46.6 miliwn i system gofal iechyd Cymru yn 2018/2019. Mae'r astudiaeth yn amcangyfrif bod £ 158.8 miliwn arall wedi'i wario ar drin y cyflyrau iechyd tymor hir sy'n gysylltiedig yn aml â chanlyniadau trais.