Jump to content

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Beth yw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)?

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn cyfeirio at weithredoedd treisgar neu achosion o gam-drin sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod. Fodd bynnag, gwyddom y gall unrhyw un ddioddef y mathau hyn o drais, sy'n cynnwys:

  • Trais ar sail rhywedd Trais rhwng partneriaid agos
  • Trais a cham-drin domestig
  • Trais a cham-drin rhywiol
  • Rheolaeth drwy orfodaeth
  • Priodas dan orfod
  • Priodas plentyn
  • Cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir
  • Anffurfio organau cenhedlu benywod
  • Masnachu pobl
  • Aflonyddu rhywiol
  • Seiberaflonyddu
  • Trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc.

Gall VAWDASV ddigwydd i unrhyw un, unrhyw bryd ond mae rhai menywod a merched yn arbennig o agored i niwed, er enghraifft menywod ifanc, menywod lesbiaidd, deurywiol, trawsryweddol neu ryngrywiol, mudwyr a ffoaduriaid, menywod brodorol a lleiafrifoedd ethnig, neu fenywod a merched sy'n byw gyda HIV ac anableddau a'r rhai sy'n byw drwy argyfyngau dyngarol.

Image shows: prevalence of VAWG

Effaith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn broblem iechyd y cyhoedd ddifrifol, yn fater cyfiawnder troseddol, ac yn torri hawliau dynol. Mae'n peri niwed i unigolion a theuluoedd, a gellir teimlo ei effaith ar draws cymunedau, cymdeithasau ac economïau cyfan.

Ni ellir mesur gwir effaith VAWDASV yn ddigonol. Fodd bynnag, gall y mathau hyn o drais effeithio ar ddioddefwyr mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft, gall trais rhywiol arwain at nifer mawr o ganlyniadau iechyd, gan gynnwys niwed corfforol, atgenhedlol a seicolegol. Gall anffurfio organau cenhedlu benywod arwain at risgiau iechyd uniongyrchol ynghyd ag amrywiaeth o gymhlethdodau hirdymor a all effeithio ar iechyd a llesiant corfforol, meddyliol a rhywiol yr unigolyn drwy gydol ei hoes.

Image shows: impact of VAWG

Dull Iechyd y Cyhoedd o Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae egwyddorion iechyd y cyhoedd yn cynnig fframwaith defnyddiol i ymchwilio i achosion a chanlyniadau VAWDASV a'u deall, a'i atal rhag digwydd.

Mae Cynghrair Atal Trais Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio pedwar cam i ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd o atal trais. Mae'r pedwar cam hyn wedi cael eu defnyddio'n llwyddiannus i roi gweithgareddau atal trais ar waith ym mhedwar ban byd:

Image shows: A public health approach to VAWG

Yn ôl gwyddoniaeth atal ym maes iechyd y cyhoedd, mae tair haen ymyrryd. Mae dull systematig a chymdeithas gyfan o atal VAWDASV yn sicrhau y caiff ymyriadau eu cyflwyno ar draws y sbectrwm atal.

Image shows: prevention of VAWG

Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru

Image shows: Timeline of VAWG prevention policy in Wales
Atal Aflonyddu Rhywiol yn Economi’r Nos - #DiogelIDdweud Gam Dau Adroddiad Gwerthuso pdf
Canllawiau Asesu Anghenion Strategol Dyletswydd Trais Difrifol i Gymru_Fersiwn 1.0 Mawrth 2023 pdf
Gwerthusiad Cam Un #DiogelIDdweud pdf
Profiadau Rhai sy'n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19 pdf
Beth sy'n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Asesiad Systematig o'r Dystiolaeth pdf
Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc PDF

Gan Uned Atal Trais Cymru a Gydweithredfa Cyfoedion Cymru