Jump to content

Cyfnodolion a Gyhoeddwyd

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi erthyglau yn y Cyfnodolion canlynol:

2024

Profiadau'r Rhai sy'n Bresennol yn ystod achosion o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod Pandemig COVID-19

Cyfnodolyn Trais ar Sail Rhywedd

Alex Walker, Rachel A. Fenton, Bryony Parry, Emma R. Barton, Lara C. Snowdon, Catherine Donovan, Mark A. Bellis, and Karen Hughes

Cliciwch yma i weld yr erthygl

Yn fyd-eang, lleisiodd gweithwyr proffesiynol eu pryderon am y ffaith bod cyfyngiadau COVID-19 wedi gwaethygu'r amodau i drais a cham-drin domestig ddigwydd. Ond mae tystiolaeth yn awgrymu bod hyn hefyd wedi rhoi mwy o gyfleoedd i'r rhai sy'n bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig fod yn fwy ymwybodol o drais a cham-drin domestig ac i weithredu yn ei erbyn. Mae'r erthygl hon yn ceisio deall profiadau'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru. Mae'r erthygl yn adrodd ar astudiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru yn ystod cyfyngiadau clo cenedlaethol yn 2021, sy'n adrodd ar brofiadau 186 o rai a oedd yn bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig yn ystod y pandemig.

2023

Atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy ymgyrch i annog ymatebion cymdeithasol cadarnhaol gan y rhai sy'n bresennol, sef #DiogelDweud

Cyfnodolyn Diogelwch a Llesiant Cymunedol

Alex Walker, Emma R. Barton, Bryony Parry and Lara C. Snowdon

Cliciwch yma i weld yr erthygl

Mae'r erthygl yn cymharu effaith Cam Un a Cham Dau ar #DiogelDweud. Cafodd y ddau gam werthusiad o brosesau a chanlyniadau drwy ddefnyddio dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, ac arolwg o ganfyddiad y cyhoedd. Dangosodd yr arolygon yr aelodau o'r cyhoedd a oedd yn teimlo bod #DiogelDweud wedi tynnu sylw pobl at fater pwysig ac wedi rhoi gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol iddynt er mwyn i'r rhai sy'n bresennol yn ystod achos o aflonyddu rhywiol weithredu'n gymdeithasol gadarnhaol. Fodd bynnag, roedd gan ddynion yn arbennig ymatebion negyddol i rai o'r hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yng Ngham Dau. Archwiliwyd esboniadau posibl am hyn yn yr erthygl.

Cymru Heb Drais: Fframwaith ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc

Cyfnodolyn Diogelwch a Llesiant Cymunedol

Emma R. Barton, Lara C. Snowdon, Bryony Parry and Alex Walker

Cliciwch yma i weld yr erthygl

Mae'r naratif arloesedd cymdeithasol hwn yn nodi'r ffordd y gwnaeth Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru greu fframwaith amlasiantaeth strategol ar y cyd ar gyfer atal tras ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru. Dyma'r cyntaf o'i fath i gael ei ddatblygu yn y Deyrnas Unedig, mae'r fframwaith cenedlaethol hwn yn gweithredu fel canllaw ar gyfer cam strategol ar atal trais, cryfhau lleisiau CYP a darparu tystiolaeth o'r "hyn sy'n gweithio."

Beth sy'n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol? Asesiad systematig o dystiolaeth

Cyfnodolyn Diogelwch a Llesiant Cymunedol

Samia Addis and Lara Snowdon

Cliciwch yma i weld yr erthygl

Mae'r adolygiad hwn yn nodi arferion effeithiol ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r adolygiad yn seiliedig ar egwyddorion iechyd cyhoeddus sy'n darparu fframwaith defnyddiol i ddeall achosion a goblygiadau trais, yn ogystal ag atal trais. Mae'r canfyddiadau yn datgelu cyfoeth o lenyddiaeth sy'n ymwneud ag atal VAWDASV. Fodd bynnag, nodwyd bylchau mewn ymchwil o ran atal masnachu, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, trais rhywiol ymysg pobl hŷn a'r hyn a elwir yn gam-drin ar sail anrhydedd ar wahân i anffurfio organau cenhedlu benywod.

2020

Mynd i'r afael â'r "pandemig cysgodol" drwy ddull iechyd y cyhoedd o atal trais

Cyfnodolyn Diogelwch a Llesiant Cymunedol

Lara C. Snowdon, Emma R. Barton, Annemarie Newbury, Bryony Parry, Mark A. Bellis and Joanne C. Hopkins

Cliciwch yma i weld yr erthygl

Mae'r naratif arloesedd cymdeithasol hwn yn archwilio'r ffordd mae dull iechyd y cyhoedd o atal trais yn cael ei roi ar waith yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 gan Uned Atal Trais amlasiantaethol Cymru. Mae'r erthygl yn tynnu sylw at dueddiadau cynnar wrth fonitro data ar effaith cyfyngiadau COVID-19 ar drais, gan gynnwys cynnydd tebygol mewn trais a cham-drin domestig a rhywiol, pryderon dros ddiogelwch a phobl ifanc, ar-lein ac yn y cartref a mwy o adroddiadau am gam-drin pobl hŷn. Mae'r erthygl hon yn cefnogi'r cysyniad o bandemig cysgodol, gan bwysleisio'r diffyg data sy'n mesur trais yn y cartref ac ar-lein fel mater o drefn sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, plant, a phobl hŷn, yn ogystal â phoblogaethau lleiafrifol a phoblogaethau sy'n agored i niwed.

Gweld Ein Hymchwil

Gweld yr holl adroddiadau ac ymchwil a gyhoeddwyd gan Uned Atal Trais Cymru