Jump to content

Ymchwil Uned Atal Trais Cymru

Atal Aflonyddu Rhywiol yn Economi’r Nos - #DiogelIDdweud Gam Dau Adroddiad Gwerthuso

Mae #DiogelDweud yn ymgyrch atal achosion o aflonyddu rhywiol, sy'n ceisio atal achosion o aflonyddu rhywiol drwy annog ymatebion cymdeithasol gadarnhaol y rhai a fu'n bresennol yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu'r arwyddion pwysig mewn lleoedd bywyd nos.

Gan adeiladu ar werthusiad o Gam Un #DiogelDweud, cafodd Cam Dau ei ddarparu gan Uned Atal Trais Cymru, gydag arian gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fel rhan o gronfa Safety of Women at Night y Swyddfa Gartref .

Mae'r gwerthusiad hwn wedi defnyddio canfyddiadau o'r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiadau gwefannau, yn ogystal ag ymatebion i arolwg canfyddiadau'r cyhoedd ar ôl yr ymgyrch.

Atal Aflonyddu Rhywiol yn Economir Nos Diogel I Ddweud Gam Dau Adroddiad Gwerthuso

Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc

Mae Cymru Heb Drais: Safbwyntiau Plant a Phobl Ifanc yn dwyn ynghyd y cyfraniadau a wnaed gan blant a phobl ifanc drwy'r ymgynghoriad ar gyfer Fframwaith Cymru Heb Drais.

Mae'r adroddiad yn darparu cipolwg anghyffredin ar y materion sy'n cael yr effaith fwyaf ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â'u blaenoriaethau er mwyn atal trais.

Mae'r adroddiad ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Dylid ei ddarllen ar y cyd â Fframwaith Cymru Heb Drais pan fyddwch yn cynllunio gweithgarwch atal trais.

Cymru Heb Drais Safbwyntiau plant a phobl ifanc

Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Er mwyn atal trais ymhlith plant a phobl ifanc mae angen camau ar y cyd a chydlynol.

Mae’r Fframwaith Cymru Heb Drais yn amlinellu’r prif elfennau sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus, system gyfan.

Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Asesiadau o Anghenion Strategol y Ddyletswydd Trais Difrifol yng Nghymru

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi datblygu'r canllawiau hyn, sy'n benodol i Gymru, er mwyn helpu partneriaid amlasiantaethol i gwblhau asesiadau o anghenion strategol i ddeall sut mae trais yn effeithio ar eu cymunedau, fel rhan o'r Ddyletswydd Trais Difrifol.

Canllawiau Asesu Anghenion Strategol Dyletswydd Trais Difrifol i Gymru

Gwerthusiad Gwasanaeth o Gyflwyno Tîm Atal Trais yn yr Ysbyty, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a'i Roi ar Waith

Mae'r gwerthusiad hwn, a oedd yn cynnwys cyfweliadau â staff clinigol a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm Tîm Atal Trais , yn ystyried y ffordd y cafodd y gwasanaeth yn yr Adran Achosion Brys ei ddatblygu a'i roi ar waith, a natur a lefel y cymorth a ddarperir i gleifion gydag anafiadau cysylltiedig â thrais.

Gwerthusiad gwasanaeth o gyflwyno a gweithredu Tîm Atal Trais mewn ysbyty yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Gwerthusiad Cam Un #DiogelIDdweud

Datblygodd Uned Atal Trais Cymru ymgyrch atal trais, #DiogelDweud, mewn cydweithrediad ag Ymgyrch Good Night Out a gyda chefnogaeth gan Cymorth i Ferched Cymru. Nod yr ymgyrch oedd atal achosion o aflonyddu rhywiol a thrais yn yr economi liw nos wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio yng Nghymru.

Mae'r gwerthusiad hwn yn adrodd ar Gam Un yr ymgyrch, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021. Dangosodd y gwerthusiad, ar y cyfan, bod yr ymgyrch wedi bodloni ei bedwar amcan drwy annog tystion i ymddwyn mewn modd cymdeithasol gadarnhaol wrth ymateb i aflonyddu rhywiol yn yr economi liw nos.

Adroddiad Gwerthuso Atal Trais Rhywiol yn Economir Nos

Uned Atal Trais Cymru_Adroddiad - Gwerthuso Systemau Cyfan 2020-21

Ar gyfer 2020/21, gwnaethom gomisiynu Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl i werthuso dull iechyd cyhoeddus system gyfan yr Uned o atal trais, er mwyn ein cefnogi ni i adeiladu ar ganfyddiadau ac argymhellion Gwerthusiad Blwyddyn Un.

Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd â gwerthusiad o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru yn ein cefnogi i ddatblygu ein dull gweithredu iechyd cyhoeddus system gyfan ymhellach i gyflawni newid gwirioneddol a pharhaol i bobl Cymru.

Uned Atal Trais Cymru Adroddiad Gwerthuso Systemau Cyfan 2020 21

Profiadau Rhai sy'n Sefyll Gerllaw o Drais a Cham-drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19

Archwiliodd yr ymchwil brofiadau ac ymddygiadau'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod achosion cam-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19, i helpu i lywio polisïau a rhaglenni hyfforddi ar ymyrraeth i'r rhai sy'n bresennol, yng ngoleuni'r newidiadau i fywydau beunyddiol a achosir gan gyfyngiadau COVID -19.

Roedd yr astudiaeth hon, a gyflawnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerwysg, ac a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys arolwg a chyfweliadau ag aelodau'r cyhoedd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac ymddygiadau'r rhai a fu'n bresennol yn ystod achosion o drais a cham-drin domestig yn ystod cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol. Er y cafodd yr astudiaeth ei gweithredu ar raddfa fach, dyma'r astudiaeth gyntaf o'i bath sy'n rhoi cipolwg newydd ar brofiadau'r rhai a oedd yn bresennol yn ystod pandemig byd-eang.

Profiadau Rhai syn Sefyll Gerllaw o Drais a Cham drin Domestig yn ystod y Pandemig COVID-19

Beth sy'n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Asesiad Systematig o'r Dystiolaeth

Mae'r asesiad systematig hwn o dystiolaeth, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ymyriadau sylfaenol ac eilaidd effeithiol i atal trais o'r fath, er mwyn llywio'r broses o fabwysiadu polisïau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r adroddiad yn nodi amrywiaeth o ddulliau gweithredu effeithiol sydd wedi'u cynllunio i atal trais o'r fath ar lefel yr unigolyn, y berthynas, y gymuned a'r gymdeithas ac yng nghyd-destun addysg, iechyd, bywyd nos ac yn y gymuned.

Beth syn Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod Cam drin Domestig a Thrais Rhywiol Asesiad Systematig or Dystiolaeth

Uned Atal Trais Cymru Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol sy'n nodi bod dros 500 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn yr ymyriadau a gomisiynwyd ganddi yn 2020-21.

Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr ymyriadau a gomisiynwyd gan yr Uned, prosiectau ymchwil a gweithgarwch gweithredol yn ystod ei blwyddyn lawn gyntaf yn gweithredu. Mae hefyd yn edrych tua'r dyfodol, gan nodi'r hyn y bydd yr Uned yn canolbwyntio arno y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Uned Atal Trais Cymru Adroddiad Blynyddol 2020 21

Gwerthusiad o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyhoeddi'r gwerthusiad annibynnol o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru.

Sefydlwyd System Gwyliadwriaeth Trais Cymru yn 2014, gan ganolbwyntio ar Dde Cymru i ddechrau, gyda'r nod o gefnogi'r gwaith o atal trais drwy ddatblygu system gwyliadwriaeth i goladu, dadansoddi a rhannu data rhwng gwahanol sectorau.

Mae'r Uned wedi bod yn gyfrifol am y System ers 2019, a'r nod yw ei hymestyn ledled Cymru. Dyma'r gwerthusiad cyntaf o System Gwyliadwriaeth Trais Cymru, ac fe'i lluniwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl. Bydd yn helpu'r Uned i ddeall anghenion ein partneriaid yn well, yn ogystal â rhwystrau presennol/posibl a ffactorau hwyluso wrth i ni barhau i ddatblygu'r system.

Gwerthusiad o System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru

Asesiad o Anghenion Iechyd: Effaith COVID-19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Mae'r Asesiad Anghenion Iechyd hwn yn adeiladu ar yr adroddiad interim 'Deall Effaith COVID-19 ar Drais a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod'

Mae'r adroddiad yn nodi ystyriaethau allweddol i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys yr angen am ymyrraeth gynnar, gwybodaeth hygyrch a chyllid cynaliadwy parhaus ar gyfer gwasanaethau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc wrth i Gymru ailagor.

Adroddiad llawn Effaith COVID 19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Adroddiad Crynodeb Gweithredol Effaith COVID 19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Infograffig Effaith COVID 19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Pecyn Cymorth Gwerthuso

Mewn cydweithrediad â Sefydliad Iechyd Cyhoeddus (PHI) Prifysgol John Moores Lerpwl (LJMU), rydym wedi datblygu pecyn cymorth gwerthuso sy'n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i ddarparwyr gwasanaeth werthuso rhaglenni ac ymyriadau sydd wedi'u targedu at atal trais.

Mae'r pecyn cymorth wedi'i gynllunio i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Pecyn Cymorth Gwerthuso Atal Trais

Pecyn Cymorth Gwerthuso Atal Trais Templed

Infograffig Gwerthuso Atal Trais

Effaith COVID-19 ar Blant a Phobl Ifanc

Cyhoeddwyd yr adroddiad interim hwn ar 'Deall Effaith COVID-19 ar Drais a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod', a wynebir gan Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru ', mewn partneriaeth â'r Hyb ACE Cymru.

Mae'r adroddiad yn myfyrio ar ddata a dadansoddiad a gynhaliwyd wrth fonitro trais yn barhaus yn ystod COVID-19, ac yn adolygu llenyddiaeth i ddeall sut mae ffactorau ehangach wedi effeithio ar iechyd plant a phobl ifanc yn sgil COVID-19. Er nad wyf yn credu y bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn yn synnu sawl un ohonom, bydd yn ein hatgoffa bod angen i ni gydweithio i ymyrryd yn gynnar ac amddiffyn plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Adroddiad Interim Deall Effaith COVID 19 ar Drais ac ACE a Brofir gan Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Uned Atal Trais Cymru Gwerthusiad Blwyddyn Un

Er mwyn llywio datblygiad parhaus Uned Atal Trais Cymru, yn 2020 gwnaethom gomisiynu Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moore Lerpwl, i gynnal ein Gwerthusiad cyntaf.

Dangosodd y gwerthusiad fod Uned Atal Trais Cymru wedi dechrau creu newidiadau ar lefel system mewn perthynas ag atal trais, gan annog sefydliadau i ganolbwyntio ar atal trais fel mater yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn dangos bod ein gwaith ni a'n partneriaid yn dechrau trawsnewid y dirwedd atal trais yng Nghymru.

Gwerthusiad o Uned Atal Trais Cymru

Costau Trais i'r System Gofal Iechyd yng Nghymru

Mae'r ymchwil hon, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Sefydliad Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl yn archwilio costau trais i'r system gofal iechyd yng Nghymru.

Mae ffigurau newydd yn yr adroddiad yn dangos, ochr yn ochr â’r trallod personol a brofwyd gan deuluoedd a chymunedau, bod ymateb i ddigwyddiadau treisgar, gan gynnwys ymosodiadau corfforol, trais partner agos-atoch, troseddau cyllyll a hunan-niweidio, wedi costio £ 46.6 miliwn i system gofal iechyd Cymru yn 2018/2019. Mae'r astudiaeth yn amcangyfrif bod £ 158.8 miliwn arall wedi'i wario ar drin y cyflyrau iechyd tymor hir sy'n gysylltiedig yn aml â chanlyniadau trais.

Costau Trais ir System Gofal Iechyd

Infograffig: Costau Trais i’r System Gofal Iechyd

Agor amgylcheddau bywyd nos wrth gynnal COVID-19 ac atal trais

I gefnogi’r asiantaethau partner gwaith i ailagor bywyd nos yn ddiogel ac atal trais yn dilyn codi cyfyngiadau cloi, cynhaliodd yr Uned ymchwil cyflym mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i asesu’r dystiolaeth a’r arferion gorau byd-eang sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau allweddol o sut mae bywyd nos wedi ailagor ar draws y byd, sut y gall mesurau i leihau risgiau COVID-19 effeithio ar risgiau trais ac mae’n darparu ystyriaethau allweddol ar gyfer agor bywyd nos yng Nghymru.

Adroddiad Llawn Asesiad cyflym o ailagor bywyd nos gan gyfyngu COVID 19 ac atal trais

Infograffig: Asesiad cyflym o ailagor bywyd nos gan gyfyngu COVID-19 ac atal trais

Edrychwch ar ein Cyfnodolion a Gyhoeddwyd

Mae Uned Atal Trais Cymru yn cyhoeddi mewn Cyfnodolion sy'n ymwneud ag atal trais yn rheolaidd.