Jump to content

POSTER NEWYDD: Gwerthuso Timau Atal Trais y GIG

Cyflwynodd Dr Alex Walker, Swyddog Canlyniadau Atal Trais, boster ar y gwerthusiad o Dimau Atal Trais y GIG yng Nghynhadledd Ymchwil a Gwerthuso Unedau Lleihau Trais ar 11 Chwefror 2025.

Cliciwch yma i edrych ar y poster (PDF).

Display of poster which can be downloaded via the link above

Mae Timau Atal Trais y GIG yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac Ysbyty Treforys, Abertawe. Cafodd y Timau Atal Trais eu sefydlu yng Nghaerdydd yn 2019 ac yn Abertawe yn 2022, er mwyn cynnig cyngor, cymorth ac arweiniad i gleifion sy'n mynd i adran achosion brys yr ysbyty ag anafiadau sy'n gysylltiedig ag ymosodiad. Mae'r Timau Atal Trais yn helpu i droi cefn ar drais drwy eu hannog i fanteisio ar gymorth, ymyriadau a gwasanaethau ehangach.

Mae tri gwerthusiad craidd wedi cael eu cynnal ar y Timau Atal Trais-

  1. Gwerthusiad Gwasanaeth o Gyflwyno Tîm Atal Trais yn yr Ysbyty, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a'i Roi ar Waith
  2. Rhaglenni Ymyriadau Atal Trais mewn Ysbytai yn Ne Cymru: Gwerthusiad o'r gwaith Gweithredu a'r Broses
  3. Effeithiolrwydd a Chost-effeithiolrwydd Tîm Atal Trais Clinigol mewn Adran Achosion Brys – yn dod yn fuan (ar gael ddiwedd 2025)

Ar y cyfan, canfu'r gwerthusiadau bod Timau Atal Trais yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi cleifion sydd wedi dioddef trais. Canfu'r gwerthusiadau bod Timau Atal Trais wedi gwella gallu'r ysbyty i nodi cleifion sydd wedi

dioddef trais. Mae Rhaglenni Ymyriadau Atal Trais mewn Ysbytai yn Ne Cymru yn tynnu sylw at y 40% o gleifion sy'n gysylltiedig â thrais a nodwyd gan y Timau Atal Trais na chawsant eu nodi gan system reoli cleifion yr Adran Achosion Brys. Mae'r Timau Atal Trais hefyd yn gallu cyfeirio cleifion at asiantaethau allanol a all ddarparu cyngor i'r cleifion a lleihau'r risg o wynebu trais eto.

Mae'r gwerthusiadau wedi argymell bod cyllid mwy hirdymor ar gyfer Timau Atal Trais yn cael ei sicrhau. Mae'r argymhellion hefyd yn cynnwys meysydd i'w datblygu megis cydweithio'n well er mwyn cefnogi cleifion yn well, datblygu dull ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn benodol y rhai sy'n gysylltiedig â thrais mewn ysgolion, cynnal ymchwil bwrpasol wedi'i thargedu ar gleifion er mwyn deall profiadau a safbwyntiau'r ymyrraeth, a modelu'r gweithlu i ddeall effeithiolrwydd y gwaith cydweithio amlasiantaethol.

Cliciwch yma i edrych ar y poster (PDF).